Skip to main content

Prentisiaeth - Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch Lefel 3

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 18 Mis

  • Campws Pibwrlwyd

Cynlluniwyd y brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo. I wneud cais am brentisiaeth mewn goruchwylio ac arwain lletygarwch byddwch yn cael eich cyflogi yn y diwydiant am o leiaf 30 awr yr wythnos ac yn mynychu ein campws ym Mhibwrlwyd ar gyfer sesiynau theori rheolaidd yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau/gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cynllunio a rheoli digwyddiadau, bwytai, bariau, siopau coffi a gwestai yn y sector.

Mae'r cwrs yn rhoi cipolwg i ddysgwyr ar y diwydiant sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain ac mae’n paratoi'r myfyriwr ar gyfer byd gwaith mewn gwestai, bwytai, bariau a chlybiau trwy ennill profiad ymarferol tra’n gweithio yn y diwydiant.

Nodweddion y Rhaglen

Rhaid eich bod yn gyflogedig am o leiaf 30 awr yr wythnos ac yn mynychu sesiynau wythnosol yn yr ystafell ddosbarth ar ein Campws ym Mhibwrlwyd, Caerfyrddin.

Cynnwys y Rhaglen

Ystod o unedau sy’n cynnwys:

  • Gosod amcanion a darparu cymorth i aelodau tîm
  • Datblygu perthynas waith gyda chydweithwyr
  • Cyfrannu at reoli adnoddau
  • Cynnal iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd yr amgylchedd gwaith
  • Arwain tîm i wella gwasanaeth cwsmer

Mae unedau opsiynol yn cynnwys:

  • Cyfrannu at hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau lletygarwch
  • Goruchwylio’r storfa win/seler a’r cownter gweini
  • Goruchwylio gwasanaethau bwyd
  • Goruchwylio gwasanaethau diod.
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall cwblhau'r cwrs arwain at gyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo gan gynnwys bwytai, bariau, clybiau nos, gwestai, llongau gwyliau i gynnwys rolau goruchwylio/rolau goruchwyliwr iau.

Dull asesu

Asesir dysgwyr trwy gynhyrchu portffolio o dystiolaeth tra’n hyfforddi yn y gweithle ynghyd ag arsylwadau yn y gweithle.

Gofynion Mynediad

Cwblhau lefel dau mewn gwasanaethau lletygarwch neu lefel dau mewn coginio proffesiynol / cynhyrchu a choginio bwyd yn llwyddiannus.

Disgwylir i ddysgwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg a Saesneg sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel dau mewn cymhwyso rhif a chyfathrebu er mwyn pasio'r brentisiaeth. Rhaid i bob prentis hefyd gwblhau diweddariadau sgiliau/targedau rheolaidd mewn cymhwyso rhif, cyfathrebu, llythrennedd digidol a Chymraeg waeth beth yw eu lefel ar fynediad.

Costau Ychwanegol

Efallai y bydd costau ychwanegol fel iwnifform a gwerslyfrau.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.