Skip to main content

Addurno Cacennau: Dyfarniad Lefel 2 NCFE Mewn Crefft Greadigol

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • Gyda’r nos 17 Wythnos - 4 awr yr wythnos

  • Campws Pibwrlwyd

Ydy crefftau creadigol yn agos at eich calon?

Gall addurno cacennau fod yn hobi llawn hwyl ac i lawer o bobl, maen nhw’n cael pleser wrth bobi ac addurno cacennau i’w teulu a’u ffrindiau.

Bydd y cwrs hwn yn rhannu arbenigedd pobyddion ac addurnwyr profiadol a fydd yn cynnig anogaeth ynghyd ag arbenigedd o ran awgrymiadau a syniadau addurno.

Felly beth am fynd â'ch hobi i'r lefel nesaf drwy ddysgu'r sgiliau a'r technegau a fydd yn troi eich cacennau o rai cartref i rai proffesiynol.  

Mae hwn hefyd yn gymhwyster achrededig ar gyfer y rheiny sydd am ddatblygu eu diddordeb mewn gwneud ac addurno cacennau ymhellach. 

Nodweddion y Rhaglen

Elfen ganolog y cwrs yw:

  • Dysgu defnyddio deunyddiau, offer a chyfarpar i ddatblygu technegau crefft.
  • Datblygu syniadau crefft.
  • Creu, cyflwyno a gwerthuso eitemau cacennau addurnol terfynol.
  • Dysgu gorchuddio ac addurno cacennau gyda marsipán, pâst siwgr, eisin caled a phâst blodau.
  • Datblygu eich sgiliau peipio, modelu a gwneud blodau sylfaenol.
  • Datblygu technegau addurnol gan gynnwys crychwaith, modelu, rhediadau, ysgrifennu a syniadau addurnol am gacennau cwpan ar gyfer amrywiaeth o achlysuron.
Costau Ychwanegol

Ffi’r cwrs Dyfarniad Lefel 2 NCFE mewn Addurno Cacennau yw Band G.

Bydd angen cyfarpar ychwanegol wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen a bydd angen i'r dysgwr ei brynu.  

Gofynion Mynediad

Does dim angen profiad blaenorol.  

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.