Skip to main content

Prentisiaeth Sylfaen - Cynhyrchu a Choginio Bwyd - Lefel 2

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 18 Mis

  • Campws Pibwrlwyd

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.  Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu ymhellach eu sgiliau ymarferol a'u hyder yn amgylchedd y gegin. Mae’n borth ardderchog i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae mwyafrif y dysgwyr yn defnyddio'r cwrs hwn fel dilyniant i raglen lefel tri mewn coginio proffesiynol neu lefel tri mewn goruchwylio ac arwain lletygarwch y gellir eu darparu fel cwrs llawn amser neu ran-amser neu brentisiaeth.

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar weithio’n effeithiol fel tîm, diogelwch bwyd a hylendid. Mae unedau eraill yn ymdrin â phynciau fel paratoi a choginio cig, pysgod, dofednod a llysiau, gwneud stociau, cawliau a sawsiau.

Cynnwys y Rhaglen

Cewch y buddion o hyfforddi yn ein cegin ar safle ar ein Campws ym Mhibwrlwyd un diwrnod yr wythnos. Asesir ystod o unedau ymarferol yn y gweithle.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae prentisiaid yn elwa wrth ennill cyflog tra eu bod yn dysgu yn eu gweithle. Yn aml mae yna amrywiaeth o gyflogwyr lleol sy'n ceisio darparu cyfleoedd prentisiaeth i ddysgwyr. Yn aml, gellir cynnig cyflogaeth i brentisiaid ar ôl cwblhau eu prentisiaeth. Mae llawer o brentisiaid yn mynd yn syth i gyflogaeth neu'n dychwelyd ar gwrs  llawn amser/prentisiaeth ar lefel uwch.  

Dull asesu

Asesir unedau trwy arsylwi tasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy'n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau.  Bydd asesu rheolaidd yn digwydd yn y gweithle.

Gofynion Mynediad

Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob prentis. Disgwylir i ddysgwyr nad oes ganddynt radd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu i basio'r brentisiaeth. Rhaid i bob prentis hefyd gwblhau diweddariadau sgiliau/targedau rheolaidd mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Chymraeg waeth beth yw eu lefel ar fynediad.

Costau Ychwanegol

Disgwylir i brentisiaid brynu set gyfan o ddillad gwyn pen-cogyddion. Mae’n bosibl bydd angen offer ychwanegol megis set o gyllyll.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.