Skip to main content

Cwrs Patisserie a Melysion

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 1 flwyddyn, 3 awr yr wythnos (5pm-8pm)

  • Campws Pibwrlwyd

Mae'r cymhwyster newydd hwn yn galluogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn pobi i ddatblygu eu sgiliau coginiol mewn gwneud melysfwyd poeth ac oer, pwdinau, bisgedi, cacennau, sbwnjis, past a phatisserie seiliedig ar does.  

Bydd myfyrwyr yn elwa ar arbenigedd pen-cogyddion patisserie a danteithion profiadol a fydd yn eich arwain yn y technegau sydd eu hangen i gynhyrchu'r cynhyrchion hynod flasus hyn.

Nodweddion y Rhaglen

Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed. Darperir ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a defnydd o'r holl gyfarpar sydd ei angen.  Bydd amrywiol ddulliau coginio, sgiliau pobi a phatisserie yn cael eu cyflwyno ym mhob sesiwn.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar batisserie a danteithion. 

Cynhyrchu melysfwyd a phwdinau poeth ac oer - Bavarois, mousses, tartenni, peis, pwdinau sbwnj, souffle oer a sawsiau.

Cynhyrchu cynhyrchion bisgedi, cacennau a sbwnjis - Sbwnjis Genoise, Gateaux, Teisen Frau, Teisen Madeira, Teisen Ffrwythau, Sbwnjis wedi’u Chwisgo.

Paratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion toes wedi'u heplesu i’w gweini, rholiau bara amrywiol, toesenni, byns melys a bara â blas.

Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i baratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion pâst, pâst choux, pâst melys, crwst brau a chrwst pwff.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gallai’r cwrs hwn fod yn fan cychwyn ysbrydoledig a bydd yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer darpar ben-cogyddion y dyfodol neu gellir ei astudio yn gyfan gwbl oherwydd brwdfrydedd dros wneud cacennau a danteithion.  Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol gyda chyrsiau llawn amser neu ran-amser eraill yn cael eu cynnig megis ein dosbarth nos addurno cacennau, cwrs siocledwr undydd a chwrs coginio Blas ar Gymru.

Mae darlithwyr yn darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.

Dull asesu

Asesir myfyrwyr wrth arsylwi gwaith ymarferol, adborth ar seigiau a gynhyrchir yn ystod pob sesiwn.  Bydd hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gynhyrchu portffolio o dystiolaeth i fodloni deilliannau dysgu'r cwrs.  Yn ogystal â’r asesiadau ymarferol bydd angen i ddysgwyr ddangos gwybodaeth trwy gwblhau papurau cwestiynau ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Terfynau oedran 16+ oed.  Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.

Costau Ychwanegol

Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, sy’n cynnwys cynhwysion y rhan fwyaf o gynhyrchion a ffedog wedi’i brandio am ddim. Band ffi I

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.