Skip to main content

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 8 wythnos, cwrs nos o 5.00 – 9:00 pm -  derbynnir myfyrwyr ym mis Medi, Ionawr a Mawrth

  • Campws Pibwrlwyd

Gallai’r cwrs pobi bara artisan fod yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer pobyddion uchelgeisiol, cogyddion cartref ymroddedig a selogion bwyd i ddod draw a dathlu’r brwdfrydedd sydd ei angen er mwyn pobi’r dorth orau bosibl a chynnyrch burum arall.    

Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd. Bydd y cwrs yn dathlu’r ryseitiau gorau oll, technegau pobi modern a chlasurol a ddefnyddir mewn ceginau proffesiynol a phoptai heddiw.

Ar ddiwedd y cwrs coginio byddwch yn ennill tystysgrif Uned Pobi Agored Cymru.

Nodweddion y Rhaglen

Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed.
Darperir yr holl gynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyllyll. Caiff amrywiol ddulliau coginio a sgiliau cegin eu cyflwyno ym mhob sesiwn.

Byddwch yn coginio o leiaf 2 fath o fara’n wythnosol.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar bobi.  Gan ddechrau gyda'r hanfodion, ein nod yw archwilio'r amrywiaethau o fara melys a sawrus sydd ar gael yn fyd-eang. 

Rhoddir sylw ac ystyriaeth arbennig i gynnyrch lleol, tymhorol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gallai’r cwrs bara artisan fod yn fan cychwyn a bydd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion a phobwyr y dyfodol, a’r cam nesaf fydd cofrestru yng Ngholeg Sir Gâr ar gwrs arlwyo llawn amser neu ran-amser.

Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol yn y coleg gyda chyrsiau eraill yn cael eu cynnig megis coginio Blas ar Gymru, addurno cacennau, patisserie a chwrs siocledwr. 

Gall darlithwyr ddarparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant i’r diwydiant.

Dull asesu

Asesiad ymarferol gyda chymorth ryseitiau.
Bydd angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o bobi amrywiaeth o fara ar gyfer eu portffolio.
Ceir Tystysgrif Agored Cymru mewn pobi bara ar gwblhau.

Gofynion Mynediad

Terfynau oedran 16+ oed.
Does dim gofynion academaidd.
Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.

Costau Ychwanegol

Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, a oedd yn cynnwys rhai o gynhwysion y cynnyrch a ffedog wedi’i brandio ar gyfer pob myfyriwr.

Band Ffi’r cwrs G.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.