Skip to main content

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 17 wythnos, cwrs nos o 17.00 – 21.00 am 17 wythnos

  • Campws Pibwrlwyd

Gallai’r cwrs coginio cartref uwch yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer rhai â’u bryd ar fod yn ben-cogyddion, cogyddion cartref ymroddedig a rhai sy’n frwdfrydig ynghylch bwyd i ddod draw a mireinio eu sgiliau cegin. 

Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd. Bydd y cwrs yn dathlu’r cynnyrch tymhorol gorau oll sydd ar gael ar hyd a lled y byd, gan ddathlu goreuon y ddaear, tir a môr.

Nodweddion y Rhaglen

Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed. Darperir y rhan fwyaf o’r cynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyllyll. Bydd amrywiol ddulliau coginio, bwtsiera, trin pysgod a sgiliau patisserie yn cael eu cyflwyno ym mhob sesiwn. Bydd y bwyd y byddwch yn ei goginio yn eiddo i chi i fynd ag ef a'i fwynhau gartref.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar gynnyrch tymhorol, tarddiad a ffyrdd cost effeithiol o fwydo’r teulu.

Byddwn yn canolbwyntio ar gynaladwyedd ac yn canolbwyntio ar goginio trwyn i gynffon gan wneud y mwyaf o’r cynnyrch a ddefnyddiwn a’i barchu. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Gallai’r cwrs Coginio cartref uwch yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn a bydd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion y dyfodol, a’r cam nesaf fydd cofrestru yng Ngholeg Sir Gâr ar gwrs arlwyo llawn amser neu ran-amser.

Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol yn y coleg gyda chyrsiau eraill yn cael eu cynnig megis addurno cacennau, patisserie, Bara Artisan a chyrsiau coginio feganaidd a llysieuol penodol. 

Gall darlithwyr ddarparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.

Dull asesu

Arsylwi gwaith ymarferol, adborth ar seigiau a gynhyrchir yn ystod pob sesiwn.

Lefel 2 NCFE crefft greadigol coginio - bydd asesu yn digwydd yn ystod y cwrs.

Gofynion Mynediad

Terfynau oedran 16+ oed.  Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.

Costau Ychwanegol

Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, sydd yn cynnwys y rhan fwyaf o gynnyrch bwyd, staff a ffedog wedi’i brandio. Band ffi I

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.