Skip to main content

Cipolwg

  • Rhan-amser gyda’r nos

  • Derbynnir myfyrwyr ym mis Medi a Thachwedd, 4 awr yr wythnos am 9 wythnos

  • Campws Pibwrlwyd

Gallai’r cwrs pobi cacennau yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer pobyddion uchelgeisiol, cogyddion cartref ymroddedig a selogion bwyd i ddod draw a dathlu’r brwdfrydedd sydd ei angen er mwyn pobi’r cacennau a’r pwdinau gorau posibl.    

Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd. Bydd y cwrs yn dathlu’r ryseitiau gorau oll, technegau pobi modern a chlasurol a ddefnyddir mewn ceginau proffesiynol a phoptai heddiw.

Ar ddiwedd y cwrs coginio byddwch yn ennill tystysgrif Paratoi a Phobi Cacennau Agored Cymru.

Nodweddion y Rhaglen

Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed.

Darperir y rhan fwyaf o’r cynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyfarpar. Caiff amrywiol ddulliau coginio a sgiliau cegin eu cyflwyno ym mhob sesiwn.

Byddwch yn cael cyfleoedd i ddysgu gwneud cacennau a phwdinau gan ddefnyddio ystod eang o dechnegau, dulliau a chynhwysion.

Cyflwynir amrywiaeth o ryseitiau gwahanol ar hyd y cwrs a byddwch yn cael eich cyflwyno i gymhlethdodau cynhwysion cytbwys er mwyn cael y canlyniadau gorau wrth bobi.

Cynnwys y Rhaglen

Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau wrth bobi amrywiaeth o gynhyrchion gan gynnwys

Bisgedi, cynhyrchion cacennau a sbwnjis - Sbwnjis Genoise, Gateaux, Teisen Frau, Teisen Madeira, Teisen Ffrwythau, Cacen Foron, Sbwnjis wedi’u Chwisgo i enwi ond ychydig.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gallai’r cwrs pobi cacennau yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn a bydd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion y dyfodol, a’r cam nesaf fydd cofrestru ar gwrs arlwyo llawn amser neu ran-amser.

Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol yn y coleg gyda chyrsiau eraill yn cael eu cynnig megis addurno cacennau, patisserie, pobi bara artisan, cyrsiau coginio Blas ar Gymru a chyrsiau coginio feganaidd a llysieuol penodol.

Gall darlithwyr ddarparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.

Dull asesu

Asesiad ymarferol gyda chymorth ryseitiau.
Bydd angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o ddod o hyd i gynhwysion, dilyn ryseitiau, paratoi a phobi ystod o gacennau a phwdinau ar gyfer eu portffolio.
Bydd myfyrwyr yn ennill Tystysgrif Agored Cymru mewn Paratoi a Phobi Cacennau ar gwblhau.

Gofynion Mynediad

Terfynau oedran 16+ oed.

Does dim gofynion academaidd.

Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.

Costau Ychwanegol

Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, a oedd yn cynnwys y rhan fwyaf o gynhwysion y cynnyrch a ffedog wedi’i brandio ar gyfer pob myfyriwr.

Band ffi G

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.