Skip to main content

Mynediad i Addysg Uwch - Celf a Dylunio

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 17 wythnos, cwrs nos o 5pm - 9pm

  • Campws Pibwrlwyd

Mae’r cwrs coginio Taste of Wales/Blas ar Gymru yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer rhai a’u bryd ar fod yn ben-cogyddion, cogyddion cartref ymroddedig a rhai sy’n frwdfrydig ynghylch bwyd, i ddod a dathlu’r gorau oll sydd gan gynnyrch o Gymru i’w gynnig.

Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd.

Bydd y cwrs yn dathlu’r cynnyrch tymhorol gorau oll sydd ar gael ar hyd a lled Cymru yn ogystal â chyflwyno cyfuniadau o flasau o ffynonellau eraill gan ddathlu goreuon y ddaear, tir a môr.

Nodweddion y Rhaglen

Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16+ oed. Darperir yr holl gynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyllyll. Bydd amrywiol ddulliau coginio, bwtsiera, trin pysgod a sgiliau patisserie yn cael eu cyflwyno ym mhob sesiwn.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar gynnyrch tymhorol a bydd yn tywys myfyrwyr trwy ystod o dechnegau ar gyfer paratoi seigiau blasus gan gynnwys cynhwysion fel pysgod o ffynonellau cynaliadwy, cig, llysiau a phwdinau.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gallai’r cwrs coginio Taste of Wales/ Blas ar Gymru fod yn fan cychwyn ysbrydoledig a bydd yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion y dyfodol, gyda’r opsiwn o’r cam nesaf sef cofrestru ar gwrs arlwyo llawn neu ran-amser.

Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol gyda chyrsiau eraill yn cael eu cynnig megis addurno cacennau, pobi cacennau, pobi bara artisan, patisserie a danteithion a choginio cartref uwch.

Mae darlithwyr yn darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.

Dull asesu

Arsylwi gwaith ymarferol ac adborth ar seigiau a gynhyrchwyd yn ystod pob sesiwn.  Bydd myfyrwyr yn casglu tystiolaeth ar gyfer portffolio a fydd yn cael ei asesu ar hyd y cwrs.

Gofynion Mynediad

Terfynau oedran 16+ oed.  Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.

Costau Ychwanegol

Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, a oedd yn cynnwys cynnyrch a ffedog wedi’i brandio. Band ffi I

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.