Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae'r BA mewn cynghori yn gwrs blwyddyn llawn amser neu ddwy flynedd rhan-amser sy'n agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau gradd sylfaen y coleg neu gymhwyster cyfwerth.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan Gymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP) ac o ganlyniad mae'n cael ei fonitro gan BACP ac mae'r rhaglen yn bodloni eu safonau hyfforddiant.

Mae angen i chi naill ai gwblhau'r radd sylfaen llawn amser yn ogystal â'r BA neu gwblhau'r radd sylfaen yn rhan-amser dros dair blynedd er mwyn bod ar y rhaglen BACP achrededig.

Cipolwg

  Llawn Amser a Rhan-amser

  Blwyddyn llawn amser/dwy flynedd rhan-amser

  Campws Rhydaman

Nodweddion y Rhaglen


Mae'r BA yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus i gynghorwyr yn dilyn eu gradd sylfaen yn ogystal â chynnig cyfle i fyfyrwyr ennill gradd anrhydedd BA lawn.

Cynnwys y Rhaglen


Mae’r BA yn cynnwys pum modiwl:

  • Sylfaen mewn cynghori pobl ifanc 

  • Cyflwyniad i Therapi ymddygiad gwybyddol

  • Gweithio gyda thrawma 
  • Paratoi i ymchwilio
  • Traethawd estynedig

Dilyniant a Chyflogaeth


Gallwch symud ymlaen o'r BA i gwrs meistr ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, campws Abertawe neu rywle arall, os ydych chi'n cwrdd â'r gofynion mynediad.

Mae myfyrwyr o'r cwrs hwn wedi mynd ymlaen i gael gwaith mewn gwahanol leoliadau cynghori megis gwasanaethau cynghori mewn ysgol a gwasanaethau profedigaeth yn ogystal â gweithio mewn practis preifat.

Asesu'r Rhaglen


Asesu ymarferol parhaus drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys: 

  • Crynodebau adfyfyriol dyddlyfr
  • Traethodau ar theori
  • Astudiaethau achos 
  • Cyflwyniadau grŵp ac unigol  
  • Prosiect annibynnol/Traethawd estynedig

Gofynion y Rhaglen


  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn gynghorwyr cymwys sydd wedi cwblhau 240 credyd ar lefel pump o gymhwyster cynghori
  • Gwiriad manwl y cynllun datgelu a gwahardd
  • Dau eirda
  • Efallai y cynghorir myfyrwyr sydd wedi profi trawma neu brofedigaethau diweddar, neu a ystyrir gan y tiwtoriaid i fod yn rhy fregus ar hyn o bryd, i ohirio eu mynediad i’r cwrs.   Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o hunanymwybyddiaeth a'r gallu i adfyfyrio ar brofiad bywyd yn ogystal â bod â'r gallu i ymdopi â gofynion emosiynol ac academaidd y cwrs

Costau Ychwanegol


DBS Manwl: £46

Aelodaeth myfyriwr BACP - £82 y flwyddyn

Llyfrau - mae'r llyfrgell yn adnodd gwych ac mae'n cynnwys mwyafrif y llyfrau sy'n ofynnol ond efallai y bydd rhai myfyrwyr am fod yn berchen ar gopïau o destunau craidd.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.