Mae'r rhaglen BA yn galluogi myfyrwyr sydd eisoes yn meddu ar radd sylfaen gysylltiedig neu gymhwyster cyfwerth i gwblhau 120 o gredydau ychwanegol er mwyn uwchraddio i gymhwyster BA anrhydedd, a ddilysir gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant. Defnyddir cyflwyniad cyfunol ar gyfer y cwrs, sy’n golygu bydd myfyrwyr yn cael cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag astudio hunangyfeiriedig, annibynnol pan nad ydynt mewn gwersi wedi’u hamserlennu. Mae'r astudio yn llawn amser (2 ddiwrnod yr wythnos) dros flwyddyn, neu'n rhan-amser (1 diwrnod yr wythnos) dros ddwy flynedd ar ein campws yn Rhydaman. Mae'r astudio yn llawn amser (2 ddiwrnod yr wythnos) dros flwyddyn, neu'n rhan-amser (1 diwrnod yr wythnos) dros ddwy flynedd ar ein campws yn Rhydaman.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Cyfle i uwchraddio i radd anrhydedd lawn, yn llawn amser neu'n rhan-amser
Tiwtoriaid profiadol sy'n gymwys yn academaidd ac yn broffesiynol
Cyfle ar gyfer astudio arbenigol ac annibynnol mewn meysydd a ddewisir gan y myfyriwr, dan arweiniad y tiwtoriaid
Astudio mewn grwpiau bach er mwyn rhannu gwybodaeth a phrofiad ag eraill
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r holl fodiwlau yn amodol ar ailddilysu llwyddiannus ym mis Mawrth 2022 a gallant newid unrhyw bryd yn ystod eich cwrs. Lle bo’n briodol, ymgynghorir â myfyrwyr ynghylch unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs sy’n cael eu hystyried. Mae'r modiwlau'n cynnwys:
Arweinyddiaeth yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Blant ac Oedolion, 20 credyd
Grwpiau Nas Clywir yn Aml, 20 credyd
Llais, Dewis, Rheolaeth i Blant a Phobl Ifanc, 20 credyd
Gall myfyrwyr symud ymlaen o'r BA i amrywiol astudiaethau ôl-raddedig e.e. dysgu, MSc mewn gwaith cymdeithasol neu ymchwil. Bydd y radd BA yn gymhwyster defnyddiol a hyblyg ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae cyflawni gradd Anrhydedd yn arddangos sgiliau lefel uwch sydd yn apelio at ddarpar gyflogwyr.
Asesu'r Rhaglen
Asesu parhaus a thrwy aseiniad. Nid oes arholiadau.
Gofynion y Rhaglen
Gradd Sylfaen neu HND mewn Gofal neu gymhwyster tebyg yn gyfwerth â dwy flynedd o addysg uwch: 120 credyd ar lefel 4 a 5. Gallai hyn fod ar ffurf cymysgedd o astudiaethau e.e. Y Brifysgol Agored, cymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol neu nyrsio neu HNC.
Gellir credydu myfyrwyr hyn â phrofiad gofal perthnasol am eu haddysg a'u hyfforddiant blaenorol ar ôl cyflwyno portffolio o dystiolaeth i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a'i gymeradwyo ganddynt. Bydd pob myfyriwr yn cael ei gyfweld.
Costau Ychwanegol
Nid oes unrhyw ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol am gyfarpar personol ac am deithiau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.
Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.