Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy’n gweithio, neu sy’n ceisio gwaith, mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan wyth mlwydd oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan Amser

  Blwyddyn

  Campws y Graig

Nodweddion y Rhaglen


Mae hwn yn gwrs llawn amser ac mae’r cymhwyster yn seiliedig ar weithdai ac ymarfer.

Hefyd, bydd hi’n ofynnol cwblhau o leiaf 280 o oriau lleoliad.

Cynnwys y Rhaglen


Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd sy’n ofynnol ar gyfer gweithio yn y sectorau gofal plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, byddwch yn:

  • Datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r egwyddorion a gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
  • Deall sut mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, arweiniad a fframweithiau’n cynnal gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • Gwerthfawrogi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, lles, dysgu a datblygiad plant
  • Ystyried rôlau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • Deall pwrpas deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, gweithdrefnau a chodau ymddygiad ac ymarfer mewn perthynas â diogelu plant.

Dilyniant a Chyflogaeth


Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn eich galluogi i weithio fel gweithiwr gofal plant lefel dau cymwys mewn swyddi dan oruchwyliaeth. Yn ogystal, gallai’r cymhwyster arwain at:

  • Ddilyniant i wella eich addysg
  • Lefel tri mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer 
  • Lefel tri mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Diploma Lefel 2/3 mewn Gwaith Chwarae
  • Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

Asesu'r Rhaglen


Caiff yr elfen graidd ei hasesu drwy gyfres o dasgau a asesir yn fewnol y gellir eu sefyll trwy gydol y cymhwyster neu ar ei ddiwedd. Yn ogystal, bydd un papur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol. 

Bydd yr elfen ymarfer yn cael ei hasesu gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer a thasgau sy’n cael eu hasesu’n fewnol.

Gofynion y Rhaglen


Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag, bydd angen i chi wirfoddoli neu gael gwaith mewn lleoliad gofal plant.

Bydd angen gwiriad DBS manwl clir.

Costau Ychwanegol


Mae’r cwrs yn costio £265

DBS Manwl - £44

All learners are required to pay an administration fee of £45 prior to enrolment.

You will need to provide your own stationery and may also incur costs if the department arranges educational visits.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.