Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy’n gweithio, neu sy’n ceisio gwaith, mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan wyth mlwydd oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.
Bydd llwybr dysgu unigol yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob dysgwr a bydd yn cynnwys pob un neu rai o'r canlynol:
Craidd, ymarfer a theori gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
Tystysgrif her sgiliau
Cymwysterau ychwanegol galwedigaethol addas
Cipolwg
Llawn Amser
2 flynedd
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae hwn yn gymhwyster llawn amser sy’n seiliedig ar weithdai ac ymarfer.
Bydd hi’n ofynnol cwblhau o leiaf 720 o oriau lleoliad.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd sy’n ofynnol ar gyfer gweithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, byddwch yn:
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r egwyddorion a gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Deall sut mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, arweiniad a fframweithiau’n cynnal gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
Gwerthfawrogi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, lles, dysgu a datblygiad plant
Ystyried rôlau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant
Deall pwrpas deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, gweithdrefnau a chodau ymddygiad ac ymarfer mewn perthynas â diogelu plant
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:
Rhaglen diwtorial
Adolygiadau cynnydd
Datblygiad llythrennedd a rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
Cymorth cyntaf paediatrig
Diogelwch bwyd
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd y cymhwyster hwn yn caniatáu i ddysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth o fewn rôl lefel tri neu symud ymlaen i ddysgu pellach trwy'r cymwysterau Consortiwm* canlynol:
Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
Lefel 4 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag arbenigedd
Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Egwyddorion, Theorïau a chyd-destunau
Bydd pwyntiau UCAS ynghlwm wrth y cymhwyster i alluogi symud ymlaen i gyrsiau lefel prifysgol.
Asesu'r Rhaglen
Caiff yr elfen graidd ei hasesu drwy gyfres o dasgau a asesir yn fewnol y gellir eu sefyll trwy gydol y cymhwyster neu ar ei ddiwedd. Yn ogystal bydd un papur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol ac arholiad.
Bydd yr elfen ymarfer yn cael ei hasesu gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd a bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen o leiaf pum TGAU ar raddau A* i C arnoch, gan gynnwys Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg iaith. Mae angen i fathemateg fod yn radd E neu uwch.
Yn ogystal, bydd angen DBS manwl clir ar ddysgwyr.
Costau Ychwanegol
DBS Manwl - £44
Iwnifform - y gost yn fras am hwdi wedi'i bersonoli £20 a chrys polo £12.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.