Mae’r radd sylfaen (FdA) hon yn gwrs addysg uwch dwy flynedd llawn amser neu dair blynedd rhan-amser a’i nod yw rhoi’r theori a’r wybodaeth ofynnol i fyfyrwyr i weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae profiad gwaith a phrofiad gwirfoddol yn caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso ac arsylwi sut mae theori yn cael ei rhoi ar waith, fodd bynnag nid hyfforddiant seiliedig ar gymhwysedd yw hwn. Mae’r cwrs yn arwain at gymhwyster gradd sylfaen a ddilysir gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant. Gellir astudio cymhwyster Gofal Plant QCF mewn ymarfer proffesiynol ochr yn ochr â'r Radd Sylfaen, ar gost ychwanegol.
Cipolwg
Llawn Amser
Gellir cymryd y cwrs naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser. Os yn llawn amser mae’n ddau ddiwrnod yr wythnos dros ddwy flynedd. Tra bod rhan-amser yn un diwrnod yr wythnos neu gyfwerth dros dair blynedd.
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Cwblhau profiad gwaith/gwirfoddol mewn lleoliadau gofal plant neu ofal cymdeithasol sy’n helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gyrfa gwybodus
Mae amrywiaeth o siaradwyr gwadd ar gyfer amrywiaeth o leoliadau gofal plant neu ofal cymdeithasol yn darparu cyfoeth o wybodaeth, profiad a chyfleoedd recriwtio
Dim arholiadau - asesir trwy gwblhau aseiniadau ar hyd bob blwyddyn Llawer o gyfleoedd i ddatblygu menter, a sgiliau gweithio mewn grŵp
Mae cefnogaeth i fyfyrwyr ar gael sy’n amrywio o gymorth dysgu ar gyfer sgiliau astudio, i gyngor ariannol a chynghori personol
Tîm bach o staff cyfeillgar a grwpiau bach o fyfyrwyr o tua 15-30 o bobl
Cynnwys y Rhaglen
Mae myfyrwyr yn astudio un ar ddeg o fodiwlau gorfodol: Mae'r modiwlau fel a ganlyn:
Lefel 4 - Blwyddyn Un:
Cyflogadwyedd 1 - 20 credyd
Dysgu yn yr Oes Ddigidol - 20 credyd
Chwarae, Adloniant a Datblygiad - 20 credyd
Materion Cwricwlwm mewn Dysgu - 20 credyd
Trawsnewidiadau mewn Plentyndod - 20 credyd
Cynhwysiant ac Amrywiaeth - 20 credyd
Lefel 5 - Blwyddyn Dau:
Cyflogadwyedd 2 - 20 credyd
Diogelu Plant a Phobl Ifanc - 20 credyd
Ymchwil gyda Phlant a Phobl Ifanc - 20 credyd
Bod yn Rhan o Gymdeithas - 20 credyd
System a Brofir: Gofal a Chyfiawnder Ieuenctid - 20 credyd
o fodiwlau gorfodol fel a ganlyn:
Lefel 4 (blwyddyn un):
Profiad cyflogaeth 1 - 20 credyd
Sgiliau astudio academaidd - 20 credyd
Chwarae, adloniant a datblygiad - 20 credyd
Pedagogeg gymdeithasol - 20 credyd
Lles holistig - 20 credyd
Cynhwysiad ac Amrywiaeth - 20 credyd
Lefel 5 (blwyddyn dau):
Profiad cyflogaeth 2 - 40 credyd
Diogelu plant a phobl ifanc - 20 credyd
Defnyddio ymchwil gyda phlant a phobl ifanc - 20 credyd
Ymroi i ddysgu - 20 credyd
Rheoli trawsnewidiadau mewn gwasanaethau i blant a phobl ifanc - 20 credyd
Dilyniant a Chyflogaeth
Er nad yw cwblhau’r cwrs yn gwarantu dilyniant, mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs wedi ymgymryd yn llwyddiannus â rhaglenni gradd mewn gwaith cymdeithasol, nyrsio neu addysgu Sicrheir cyflogaeth yn aml mewn llawer o asiantaethau gofal plant, addysg lleol, a phrosiectau/rolau seiliedig ar ofal cymdeithasol.
Anogir symud ymlaen i’r BA (Anrh) (atodol) mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr.
Asesu'r Rhaglen
Asesir trwy gyfrwng gwaith cwrs a gwblheir ar hyd y flwyddyn. Nid oes arholiadau.
Gofynion y Rhaglen
Un Safon Uwch neu gyfwerth.
Caiff cymwysterau Mynediad eu croesawu.
Gellir derbyn ymgeiswyr hŷn heb unrhyw gymwysterau blaenorol os oes ganddynt brofiad ymarferol neu bersonol. Gwneir penderfyniadau ar sail unigol yn dilyn cyfweliad.
Mae Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Rhaid i bob ymgeisydd wneud cais trwy UCAS gan ddefnyddio’r cod cwrs L521 a’r cod sefydliad C22.
Costau Ychwanegol
DBS Manwl - £44
Cofrestriad blynyddol i wasanaeth diweddaru DBS - £13
Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.