Skip to main content

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol

Disgrifiad o'r Rhaglen


Cwrs addysg uwch llawn amser, dwy flynedd yw’r radd sylfaen hon.  Bydd myfyrwyr yn dod i’r coleg ar gyfer darlithoedd ar ddau ddiwrnod yr wythnos dros gyfnod o ddwy flynedd.  Ar hyn o bryd does dim opsiwn rhan-amser ar gyfer y cwrs hwn.  Defnyddir cyflwyniad cyfunol ar gyfer y cwrs, sy’n golygu bydd myfyrwyr yn cael cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.  Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag astudio hunangyfeiriedig, annibynnol pan nad ydynt mewn gwersi wedi’u hamserlennu.  Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i archwilio gofal cymdeithasol a’r gwerthoedd sy’n tanategu gwaith yn y maes hwn.  Mae myfyrwyr yn cael y theori a’r wybodaeth ofynnol i weithio ym maes gofal cymdeithasol, a’r rhinweddau a’r agweddau drwy wirfoddoli neu brofiad gwaith. Bydd hi’n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau oriau gwirfoddoli yn ystod y ddwy flynedd.  Mae’r cwrs yn arwain at gymhwyster gradd sylfaen a ddilysir gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant. 



Cipolwg

  Llawn Amser

  2 flynedd

  Rhydaman Graig

Nodweddion y Rhaglen


  • Tîm bach o staff cyfeillgar a grwpiau bach o fyfyrwyr o tua 15-25 o bobl

  • Tiwtoriaid profiadol sy’n gymwys yn academaidd a phroffesiynol hefyd

  • Does dim arholiadau - mae’r asesu'n barhaus trwy gwblhau aseiniadau 

  • Llawer o gyfleoedd i ddatblygu menter, a sgiliau gweithio mewn grŵp

  • Mae cefnogaeth i fyfyrwyr ar gael ar y safle, sy’n amrywio o gymorth dysgu ar gyfer sgiliau astudio academaidd, i gyngor ariannol a chynghori personol

  • Cysylltiadau gyda gwasanaethau gofal a chymorth lleol y gall myfyrwyr eu defnyddio i gael profiad trwy leoliadau gwirfoddol.

Cynnwys y Rhaglen


Mae’r holl fodiwlau yn amodol ar ailddilysu llwyddiannus ym mis Mawrth 2022 a gallant newid unrhyw bryd yn ystod eich cwrs.  Lle bo’n briodol, ymgynghorir â myfyrwyr ynghylch unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs sy’n cael eu hystyried.  Yn y flwyddyn gyntaf mae modiwlau’n rhai craidd neu’n orfodol ac maent yn 20 credyd yr un:

Lefel 4 (Blwyddyn 1)

Eiriolaeth a Grymuso

Ymarfer Cynhwysol

Prif Ddamcaniaethau 

Cyflogadwyedd 1 (Craidd)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol 

Personoli Gofal a Chymorth



Yn yr ail flwyddyn mae cyfuniad o fodiwlau craidd, gorfodol ac opsiynol, sydd i gyd yn 20 credyd yr un:

Lefel 5 (Blwyddyn 2):

Cyflogadwyedd 2 (craidd)

Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion (craidd)

Ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol (gorfodol)

Archwilio Iechyd Meddwl (opsiynol)

Dilemâu Moesegol mewn Gofal Cymdeithasol (opsiynol)

Cefnogi Gofalwyr (opsiynol)

Cyflwyniad i Droseddeg (opsiynol)

Deall Camddefnyddio Sylweddau (opsiynol)

Dilyniant a Chyflogaeth


Er nad yw cwblhau’r cwrs yn sicrhau dilyniant, mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs wedi ymgymryd â rhaglenni gradd yn llwyddiannus mewn gwaith cymdeithasol, nyrsio (amrywiol feysydd), cynhwysiant cymdeithasol yn ogystal â graddau gwyddor gymdeithasol.  Gellir ennill cyflogaeth mewn llawer o asiantaethau gofal cymdeithasol lleol neu mewn prosiectau cymunedol newydd sy’n datblygu.  Mae cyfle i symud ymlaen i radd anrhydedd BA y coleg mewn astudiaethau gofal cymdeithasol. 

Sut mae gwneud cais: 

Rhaid i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais trwy UCAS gan ddefnyddio’r cod cwrs L500 a’r cod sefydliad C22. 

Mae gwybodaeth am y ffioedd cyfredol ar gael yn Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.ac am gyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru neu drwy’r coleg yn Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Asesu'r Rhaglen


Mae’r asesu yn barhaus a thrwy aseiniadau. Does dim arholiadau. 

Gofynion y Rhaglen


Un Safon Uwch neu gyfwerth.  Caiff cymwysterau Mynediad eu croesawu.  Gellir derbyn ymgeiswyr hŷn heb unrhyw gymwysterau blaenorol os oes ganddynt brofiad ymarferol.  Gwneir penderfyniadau ar sail unigol yn dilyn cyfweliad. 

Mae Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol.

Costau Ychwanegol


Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ddangos DBS boddhaol ac i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru.  Y myfyriwr sy’n talu am gwblhau’r DBS. Ar hyn o bryd mae hyn yn £46 ynghyd â £13 y flwyddyn ar gyfer cofrestru.



Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.