Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy'n ceisio llwybr i ofal plant neu iechyd a gofal cymdeithasol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae hwn yn gymhwyster llawn amser sy'n seiliedig yn bennaf ar weithdai, gydag elfennau o brofiad lleoliad gwaith gofal plant a/neu iechyd a gofal cymdeithasol, mewn amgylchedd dysgu cefnogol a meithringar.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o unedau seiliedig ar ofal plant ac iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys:
Cyflwyniad i ddatblygiad plant a phobl ifanc drwy chwarae
Cyflwyniad i ffordd o fyw iach
Cyflwyniad i weithio mewn partneriaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol (oedolion a phlant a phobl ifanc), y blynyddoedd cynnar a gofal plant
ymwybyddiaeth o ddiogelu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol (oedolion a phlant a phobl ifanc), blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Cyflwyniad i ddatblygiad plant a phobl ifanc
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y modiwlau canlynol:
Rhaglen diwtorial
Adolygiadau cynnydd
Datblygiad llythrennedd a rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
Byddwch Actif
Dilyniant a Chyflogaeth
Gallai cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus arwain at ddilyniant i gwrs lefel dau.
Asesu'r Rhaglen
Arsylwadau ar Leoliad
Asesiadau ysgrifenedig
Bydd enghreifftiau’n cynnwys traethodau, posteri, cyflwyniadau PowerPoint a gwaith amrywiol arall.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen geirda da arnoch a chaiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Ar gyfer y cwrs lefel un hwn bydd angen i chi gael o leiaf pedwar cymhwyster TGAU ar raddau A i G a DBS manwl clir.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.