Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon (QCF) wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn lleoliad gofal.
Bydd hyn yn darparu tystiolaeth o gymhwysedd y dysgwr mewn rolau a chyfrifoldebau sy'n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc.
Os ydych yn bwriadu gweithio yn Lloegr cysylltwch â Skills for Care (SfC) i gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cymwysterau gofynnol.
Cipolwg
Rhan Amser
16 gweithdy undydd
Campws Rhydaman
Nodweddion y Rhaglen
Gweithdai cefnogol rheolaidd yn y coleg
Asesir gan aseswyr cymwys a phrofiadol
Cymhwyster statudol a gydnabyddir trwy Gymru a Gogledd Iwerddon
Cynnwys y Rhaglen
Yr Unedau Gorfodol yw:
Cyfathrebu; Datblygiad Personol, Cydraddoldeb a Chynhwysiant; Dyletswydd Gofal; Datblygiad Plant a Phobl Ifanc, Diogelu Lles Plant a Phobl Ifanc; Iechyd a Diogelwch; Perthynas Bositif a Chanlyniadau Positif, Gweithio Gyda'n Gilydd er Lles Plant a Phobl Ifanc, Asesu a Chynllunio, Lles a Gwytnwch, Colled Synhwyraidd; Ymarfer Proffesiynol.
Caiff Unedau Dewisol ei dewis yn ôl yr hyn sy'n berthnasol i leoliad gwaith y dysgwr.
Dilyniant a Chyflogaeth
Darperir y cwrs hwn fel gofyniad statudol i'r holl staff ar gyfer symud ymlaen o fewn y sector gofal.
Asesu'r Rhaglen
Y radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster yw pas. Er mwyn pasio unrhyw uned rhaid i'r dysgwr gyflawni'r holl ddeilliannau dysgu a nodwyd a bodloni'r holl feini prawf asesu trwy ddarparu tystiolaeth ddigonol a dilys ar gyfer pob maen prawf mewn portffolio.
Caiff y dyfarniad ei asesu gan aseswr yn y coleg gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau gan gynnwys arsylwi uniongyrchol yn y gweithle, adroddiadau adfyfyriol ysgrifenedig, trafodaeth broffesiynol, cwestiynau ac atebion, tystiolaeth tyst arbenigol a thystiolaeth o gydnabod dysgu blaenorol.
Gofynion y Rhaglen
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond bydd angen i ymgeiswyr fod yn gweithio ar lefel 3 mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol a chael cefnogaeth eu cyflogwr i gwblhau'r dyfarniad.
Gall rolau gwaith gynnwys Uwch Gynorthwy-ydd Gofal / Uwch Weithwyr Gofal mewn lleoliadau Gofal Preswyl / Gofal Dydd / Gofal Seibiant / Gofal Maeth.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.