Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae hwn yn gwrs newydd sy'n cael ei gyflwyno ym mis Medi 2020 ac mae wedi'i ddatblygu i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu paratoi am waith ac astudiaeth bellach mewn sector sgiliau sy'n datblygu'n gyflym.

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth ac wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am ddatblygu gwybodaeth eang a dofn sy’n gysylltiedig â'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.  Bydd yn darparu sail gadarn ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen i addysg uwch neu i’r gweithle.

Ochr yn ochr â’r Lefel 3 Egwyddorion a Chyd-destunau byddwch yn astudio’r Dystysgrif Her Sgiliau neu Ddiploma CBAC mewn Gwyddor Feddygol.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Hyd at 2 flynedd

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen


Bydd y cymwysterau’n cwmpasu'r wybodaeth greiddiol, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol gan y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Egwyddorion a damcaniaethau twf a datblygiad dynol.
  • Salwch, afiechydon ac anhwylderau cyffredin, a sut y gellir eu hatal a'u rheoli.
  • Darparu iechyd a gofal cymdeithasol: gwasanaethau oedolion, plant a phobl ifanc.
  • Hybu iechyd da.
  • Deall ymddygiad dynol - damcaniaethau seicolegol ac iechyd meddwl.
  • Hybu hawliau oedolion, plant a phobl ifanc.

Fel rhan o'r cwrs bydd gofyn i chi fynd i leoliad gwaith.   Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau'r cwrs.

Cynnwys y Rhaglen


Byddwch yn astudio Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau. Ochr yn ochr â hyn, ar gyfer y llwybr Gofal Cymdeithasol, byddwch yn astudio’r Dystysgrif Her Sgiliau. Ar gyfer y llwybr Iechyd, byddwch yn cwblhau’r Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol. Mae’r cymwysterau hyn yn gyfwerth â 3 Safon Uwch.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaglen Diwtorial
  • Adolygiad Cynnydd
  • Datblygiad Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
  • Byddwch Actif

Dilyniant a Chyflogaeth


Mae cwblhau'r cwrs a'r Dystysgrif Her Sgiliau / Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol yn llwyddiannus yn gyfwerth â thair Safon Uwch a bydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch mewn meysydd sy’n cynnwys:

  • gofal cymdeithasol
  • y blynyddoedd cynnar
  • therapi iaith a lleferydd
  • seicoleg
  • bydwreigiaeth
  • iechyd galwedigaethol

Asesu'r Rhaglen


Asesir y cymwysterau trwy gyfuniad o asesiadau ysgrifenedig allanol ac asesiadau nad ydynt yn arholiadau.

Gofynion y Rhaglen


Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd.Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.   

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs Lefel 3 feddu ar:

O leiaf 5 TGAU ar raddau A* i C gan gynnwys Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg iaith.  Mae angen i Fathemateg fod yn radd E neu uwch.

Hefyd, er mwyn dilyn y llwybr Iechyd bydd angen Mathemateg a Gwyddoniaeth ar radd C+.

Bydd gan ddysgwyr sy'n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Sir Gâr ofynion mynediad gwahanol i gynnwys - cwblhau ac ymgysylltu'n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a bydd ganddynt eirda cadarnhaol.

Costau Ychwanegol


Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.

DBS Manwl - £44

Iwnifform - (Hwdi a Chrys-T) - tua £40

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.