Mae hwn yn gymhwyster newydd a ddatblygwyd ar gyfer unigolion 16+ oed sy’n gweithio mewn neu sy’n bwriadu gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’n gyflwyniad eang i’r diwydiant er mwyn eich cefnogi i symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach a hyfforddiant.
Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion, a phlant a phobl ifanc. Bydd yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi o ffyrdd o weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n llywio ymarfer effeithiol yn y sector hwn. Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch hefyd yn dilyn llwybr sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd hyn yn cynnwys Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru, mathemateg/rhifedd Agored neu TGAU a Saesneg, os nad oes gennych radd C.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Fel rhan o'r cwrs bydd gofyn i chi fynd i leoliad gwaith am 60 awr. Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau'r cwrs.
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r cymhwyster yn cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae'n adlewyrchu ystod o wahanol rolau a lleoliadau. Mae'r cynnwys ar gyfer y cymhwyster hwn yn cynnwys y themâu canlynol:
Egwyddorion a gwerthoedd
Iechyd a lles
Ymarfer proffesiynol
Diogelu
Iechyd a diogelwch
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys y canlynol:
Rhaglen diwtorial
Adolygu cynnydd
Datblygiad llythrennedd a rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
Byddwch Actif
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd y cymhwyster hwn yn eich cefnogi i symud ymlaen i astudiaeth bellach, gan gynnwys y cymwysterau canlynol o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a chymwysterau gofal plant yng Nghymru:
Lefel dau iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer (oedolion)
Lefel dau iechyd a gofal cymdeithasol: egwyddorion a chyd-destunau (oedolion, plant a phobl ifanc)
Lefel tri iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer (oedolion)
Lefel tri iechyd a gofal cymdeithasol: ymarfer (plant a phobl ifanc)
Tystysgrif a diploma lefel tri mewn iechyd a gofal cymdeithasol: egwyddorion a chyd-destunau
Mae'r cymhwyster hefyd yn cefnogi cyfleoedd i gael gwaith. Fodd bynnag, dylid nodi, yn ychwanegol at y cymhwyster craidd, bod cymhwyster lefel dau neu dri ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn ofyniad ar gyfer ymarfer.
Asesu'r Rhaglen
Asesiad parhaus gan gynnwys tri asesiad mewnol yn seiliedig ar senarios (pedwar asesiad mewnol wedi'u seilio ar senarios ar gyfer y llwybr oedolion a phlant a phobl ifanc) ac un prawf amlddewis wedi'i osod a'i farcio'n allanol.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen geirda da arnoch a chaiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei drafod yn y cyfweliad.
Ar gyfer y cwrs lefel dau bydd angen o leiaf dwy radd ar raddau A* i C gan gynnwys Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg iaith. Mae angen i fathemateg fod yn radd E neu uwch.
Bydd gan ddysgwyr sy'n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Sir Gâr ofynion mynediad gwahanol i gynnwys cwblhau ac ymgysylltu'n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a geirda cadarnhaol.
Costau Ychwanegol
Ffi cofrestru - £45
DBS Manwl - £44
Iwnifform - (hwdi a chrys-T) - tua £40
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.