Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol 10-wythnos i'r rheiny sy’n dymuno dysgu sgiliau cynghori (sgiliau gwrando ac ymateb) mewn rolau helpu.
Mae'r cwrs yn eich galluogi i ddarganfod mwy am gynghori ac yn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi am fynd ymlaen i hyfforddi fel cynghorydd.
Mae llawer o fyfyrwyr yn canfod y gall y cwrs hwn helpu i wella rolau proffesiynol a pherthnasoedd personol presennol, p’un ai ydyn nhw'n mynd ymlaen i hyfforddi ymhellach ai peidio.
Cipolwg
Rhan Amser
10 wythnos
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Cynigir y cwrs hwn ar dri champws gwahanol: Pibwrlwyd (Caerfyrddin), Y Graig (Llanelli) a Rhydaman ac ar-lein.
Mae'r cwrs yn rhedeg am 10 wythnos am dair awr ac fel arfer caiff ei redeg gyda'r nos (5pm i 8pm) neu yn y prynhawn (1pm i 4pm) yn Rhydaman.
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r cwrs yn cwmpasu saith prif faes gan gynnwys cydnabod cyfyngiadau a ffiniau rôl helpu, cyfathrebu empathi, canolbwyntio ar agenda’r person sy’n derbyn help, cydnabod pwysigrwydd hunanymwybyddiaeth, rhoi a derbyn adborth yn ogystal ag elfen ymarferol o ddefnyddio sgiliau gwrando ac ymateb.
Mae mwy o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael ar wefan CPCAB.
Argymhellir bod myfyrwyr yn cael y llyfr CPCAB sy'n cyd-fynd â'r cwrs hwn: Counselling skills and Studies (2il Argraffiad) gan Dykes, Kopp a Postings.
Dilyniant a Chyflogaeth
Nid yw'r cymhwyster hwn yn arwain yn uniongyrchol at rôl gyflogedig, fodd bynnag, gall wella rôl wirfoddol neu rôl â thâl bresennol neu gynyddu cyflogadwyedd cyffredinol y rheiny sy'n ceisio camu i’r farchnad swyddi.
Yn dilyn y cwrs hwn, gallwch wneud cais am y radd sylfaen mewn cynghori sy'n eich cymhwyso i fod yn gynghorydd.
Asesu'r Rhaglen
Byddwch yn cadw portffolio o'ch dysgu gan gynnwys darnau adfyfyriol ysgrifenedig ac adborth gan gyfoedion a thiwtor am eich ymarfer sgiliau cynghori.
Gofynion y Rhaglen
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, mae'r cwrs yn cynnwys elfennau trwy brofiad a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddatgeliad personol a gweithgareddau datblygiad personol cysylltiedig.
Felly, nid yw'r cwrs hwn yn cael ei argymell ar gyfer y rheiny sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr o anhawster emosiynol difrifol a/neu ddryswch seicolegol difrifol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.