Prentisiaeth mewn Gwaith Chwarae (Lefel 3)
Cipolwg
-
Rhan-amser
-
16 Mis
-
Campws Rhydaman
Prentisiaeth yw hon sy’n seiliedig ar weithdai ac ymarfer ac mae wedi'i hanelu at weithwyr chwarae profiadol sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth eang o blant a phobl ifanc a gwerthfawrogiad dwfn o egwyddorion ac ymarfer gwaith chwarae.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl yr angen.
Mae cynnwys y rhaglen yn cwmpasu lluniadu, peintio, astudiaethau dylunio 2D / 3D a Hanes Celf; unedau sydd yn darparu ymwybyddiaeth gyffredinol, gwybodaeth a dealltwriaeth o gelf, dylunio a’i gyd-destunau.
Mae'r unedau Celf yn golygu gweithio'n uniongyrchol o arsylwi i ddatblygu sgiliau dadansoddol, cofnodi a chyfansoddol y byddwch yn eu cymhwyso i waith creadigol, personol o fewn ystod o ddisgyblaethau.
Cyflwynir gwybodaeth trwy weithdai a addysgir a bydd yn cynnwys:
- Theorïau chwarae, mathau ac amgylcheddau chwarae
- Egwyddorion ymarfer
- Cyfle Cyfartal
- Diogelu
- Iechyd a Diogelwch
- Perthnasoedd o fewn yr amgylchedd chwarae.
Fframwaith:
- Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 2)
- Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i radd mewn disgyblaeth gysylltiedig.
Gallai rolau swyddi posibl gynnwys swyddog datblygu gwaith chwarae, goruchwyliwr canolfan antur, gweithiwr chwarae mewn ysbyty, a rheolwr unrhyw ddarpariaethau gwaith chwarae.
Caiff y cymhwyster ei asesu gan eich tiwtor a’ch aseswr gan ddefnyddio ystod o ddulliau. Bydd hyn yn cynnwys arsylwadau uniongyrchol yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth ac aseiniadau ysgrifenedig.
Ar gyfer y diploma, bydd angen i chi fod mewn gwaith â thâl yn y sector gofal plant.