Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Cipolwg
-
Rhan-Amser
-
15 Mis
-
Campws Rhydaman
Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lefel dau, lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Anelir y rhaglen at ddysgwyr sydd dros 18 oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol mewn rolau megis gweithiwr gofal cymdeithasol, gweithiwr cymorth gofal iechyd neu gynorthwyydd gofal iechyd.
Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Bydd y prentis yn mynychu’r coleg yn rheolaidd a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl yr angen.
Bydd rhaid i ddysgwyr gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer - gydag Oedolion
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1
Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri.
Bydd prentisiaid yn mynychu sesiynau a addysgir naill ai ar-lein neu yn yr ystafell ddosbarth, i gwmpasu cynnwys craidd y lefel dau.
Caiff y craidd ei asesu drwy astudiaethau achos ac arholiad ar-lein.
Caiff yr ymarfer ei asesu drwy waith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag rhaid i ymgeiswyr fod mewn gwaith â thâl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gyda chontract o 16 awr yr wythnos o leiaf.