Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol L2 Oedolion

Disgrifiad o'r Rhaglen


Rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel dau yw hon lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu.  Anelir y rhaglen at ddysgwyr sydd dros 18 oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol mewn rolau megis gweithiwr gofal cymdeithasol, gweithiwr cymorth gofal iechyd neu gynorthwyydd gofal iechyd.

Bydd y dysgwr yn gyflogedig a bydd yn dod i’r coleg yn rheolaidd.

Cipolwg

  Rhan Amser

  15 mis

  Campws Rhydaman

Nodweddion y Rhaglen


Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd. Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser a byddant yn asesu’r dysgwr yn y gweithle yn ôl y gofyn. 

Cynnwys y Rhaglen


Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y cwrs hwn gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys: 

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd  

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer - gydag Oedolion

Asesu'r Rhaglen


Bydd dysgwyr yn mynychu sesiynau a addysgir naill ai ar-lein neu yn yr ystafell ddosbarth, i gwmpasu cynnwys craidd y lefel dau.

Caiff y craidd ei asesu drwy astudiaethau achos ac arholiad ar-lein.

Caiff yr ymarfer ei asesu drwy waith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.

Gofynion y Rhaglen


Does dim gofynion mynediad ffurfiol fodd bynnag dylai ymgeiswyr fod mewn gwaith â thâl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Costau Ychwanegol


Ffi’r cwrs £196

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.