Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3 - Oedolion/Plant a Phobl Ifanc
Cipolwg
-
Rhan Amser
-
19 Mis
-
Campws Rhydaman
Cwrs dysgu seiliedig ar waith rhan-amser ar lefel tri yw hwn lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu.
Anelir y rhaglen at ddysgwyr sydd dros 18 oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol mewn rolau megis gweithiwr gofal cymdeithasol, gweithiwr cymorth gofal iechyd neu gynorthwyydd gofal iechyd.
Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Bydd y dysgwr yn gyflogedig a bydd yn dod i’r coleg yn rheolaidd.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser a byddant yn asesu’r dysgwr yn y gweithle yn ôl y gofyn.
Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y cwrs hwn gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd (gydag Oedolion neu Blant a Phobl Ifanc neu lwybr cyfun)
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer (gydag Oedolion neu Blant a Phobl Ifanc)
Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.
Mae’r Cwrs Celf a Dylunio: Mynediad i Addysg Uwch yn cwmpasu cyfres o unedau sy’n rhoi cyfanswm o 60 credyd sy’n cynnwys unedau craidd ac academaidd. Mae’r unedau hyn yn orfodol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Astudio Craidd gan gynnwys Cyfathrebu, Sgiliau Meddwl a Pharatoi Portffolio.
Bydd dysgwyr yn mynychu sesiynau a addysgir naill ai ar-lein neu yn yr ystafell ddosbarth, i gwmpasu cynnwys craidd y lefel dau.
Caiff y craidd ei asesu drwy arholiad ar-lein.
Caiff yr ymarfer ei asesu drwy waith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag rhaid i ymgeiswyr fod mewn gwaith â thâl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gyda chontract o 16 awr yr wythnos o leiaf.
Ffi’r cwrs £256