Prentisiaeth - Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 3)
Cipolwg
-
Rhan-amser
-
18 Mis
-
Campws Rhydaman
Rhaglen lefel 3 yw hon sydd yn rhoi cyfle i chi astudio celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol.
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt o bosibl unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sydd mewn cyfweliad portffolio yn arddangos brwdfrydedd, ymrwymiad i gelf a dylunio, a bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cwrs a gwneud cais am le ar gyrsiau gradd creadigol.
Yn draddodiadol, mae'r rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o grwpiau oedran ac anogir chi i ddatblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy ddarlithoedd, gweithdai a phrosiectau.
Mae’n rhaid eich bod yn gyflogedig i gymryd rhan yn y rhaglen hon.
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd sy’n ofynnol ar gyfer gweithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn:
- Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
- Deall sut mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, arweiniad a fframweithiau’n cefnogi gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
- Gwerthfawrogi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, lles, dysgu a datblygiad plant.
- Ystyried rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant a deall pwrpas deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, gweithdrefnau a chodau ymddygiad ac ymarfer mewn perthynas â diogelu plant.
- Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
- Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
- Bydd yr aseswr yn asesu’r dysgwr yn y gweithle yn ôl yr angen
Mae’r rhaglen brentisiaeth hon yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr gofal plant lefel 3 cymwysedig mewn rôl heb oruchwyliaeth ac, yn y lleoliad gwaith iawn, mewn rôl arwain.
Gellir symud ymlaen i raglen lefel 4.
Caiff yr elfen graidd ei hasesu drwy gyfres o dasgau a asesir yn fewnol y gellir eu sefyll trwy gydol y cymhwyster neu ar ei ddiwedd. Yn ogystal, bydd un papur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol.
Bydd yr elfen ymarfer yn cael ei hasesu gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer.
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Rhaid bod dysgwyr yn gyflogedig yn y sector gofal plant a bod ganddynt gontract parhaol am o leiaf 16 awr yr wythnos.