Mae'r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am rôl gweithiwr chwarae lefel tri wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng pedair ac 16 oed. Mae’r diploma yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio heb oruchwyliaeth.
Cipolwg
Rhan Amser
18 mis
Rhydaman Graig
Nodweddion y Rhaglen
Cwrs rhan-amser yw hwn sy’n seiliedig ar weithdai ac ymarfer ac mae wedi'i anelu at weithwyr chwarae profiadol sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth eang o blant a phobl ifanc a gwerthfawrogiad dwfn o egwyddorion ac ymarfer gwaith chwarae.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Bydd yr aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser a bydd yn asesu’r dysgwr yn y gweithle.
Cynnwys y Rhaglen
Cyflwynir gwybodaeth trwy weithdai a addysgir a bydd yn cynnwys:
Theorïau chwarae, mathau ac amgylcheddau chwarae,
Egwyddorion ymarfer
Cyfle Cyfartal
Diogelu
Iechyd a Diogelwch
Perthnasoedd o fewn yr amgylchedd chwarae.
Fframwaith:
Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 2)
Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol
Dilyniant a Chyflogaeth
Gallai dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i radd mewn disgyblaeth gysylltiedig.
Gallai swyddi posibl gynnwys:
Swyddog Datblygu Gwaith Chwarae
Goruchwyliwr Canolfan Antur
Gweithiwr Chwarae mewn Ysbyty
a Rheolwr unrhyw Ddarpariaethau Gwaith Chwarae.
Asesu'r Rhaglen
Caiff y cymhwyster ei asesu gan eich tiwtor a’ch aseswr gan ddefnyddio ystod o ddulliau. Bydd hyn yn cynnwys arsylwadau uniongyrchol yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth ac aseiniadau ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen i chi fod mewn gwaith â thâl neu’n gwirfoddoli yn y sector gofal plant.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.