Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn / 2 flynedd

  • Campws Rhydaman 

Mae cynghori yn yrfa broffesiynol lle mae empathi, tosturi a gwrando gweithredol yn cyfuno i rymuso unigolion ar eu taith o dwf personol a gwella.

Mae'r radd sylfaen yn gwrs dwy flynedd yn llawn amser neu dair blynedd yn rhan-amser, sy'n arwain at gymhwyster mewn cynghori therapiwtig.  

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan Gymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP).  Fel y cyfryw, mae'r cwrs hwn yn cael ei fonitro gan BACP ac mae'n bodloni eu safonau hyfforddiant. 

Bydd angen i chi naill ai gwblhau'r radd sylfaen llawn amser yn ogystal â'r BA neu gwblhau'r radd sylfaen yn rhan-amser dros dair blynedd er mwyn bod ar y rhaglen BACP achrededig.

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r radd sylfaen wedi'i bwriadu ar gyfer y rheiny sy'n dymuno cymhwyso fel cynghorwyr.  Bydd angen i chi gwblhau 100-150 o oriau o ymarfer dan oruchwyliaeth mewn lleoliad cynghori addas er mwyn ennill cymhwyster cynghori achrededig BACP.   Rhaid i fwyafrif yr ymarfer cynghori fod yn gynghori wyneb yn wyneb gydag oedolion (o leiaf 51%) neu blant a phobl ifanc (uchafswm o 70%). 

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gael o leiaf 20 awr o therapi personol.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r radd sylfaen yn cwmpasu pedwar prif faes:

  • Theori cynghori: edrych yn feirniadol ar y syniadau y tu ôl i gynghori.
  • Ymarfer cynghori a materion proffesiynol: materion moesegol craidd, cyfle cyfartal, materion proffesiynol ac ymarfer gan gynnwys gweithio ar-lein
  • Ymarfer clinigol: lleoliad cynghori
  • Datblygiad personol: datblygu hunanymwybyddiaeth a deall ymatebion i eraill
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall myfyrwyr symud ymlaen i'r BA mewn cynghori.

Mae myfyrwyr o'r cwrs hwn hefyd wedi symud ymlaen i gael gwaith mewn gwahanol leoliadau cynghori megis gwasanaethau cynghori mewn ysgol a gwasanaethau profedigaeth yn ogystal â gweithio mewn practis preifat.

Dull asesu

Asesu parhaus gan gynnwys:

  • Crynodebau dyddlyfr adfyfyriol
  • Traethodau ar theori
  • Astudiaethau achos 
  • Cyflwyniadau grŵp ac unigol  
  • Recordiadau fideo o waith gyda myfyrwyr eraill a recordiadau sain o waith gyda chleientiaid
  • Portffolio o dystiolaeth o waith lleoliad
Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs hwn yn gofyn am:

  • Dyfarniad lefel dau CPCAB mewn cyflwyniad i sgiliau cynghori (30 awr) neu gyfwerth
  • Fel rheol, bydd myfyrwyr wedi cwblhau hyfforddiant rhagarweiniol o fewn pum mlynedd cyn gwneud cais am y radd sylfaen
  • Gwiriad manwl y cynllun datgelu a gwahardd
  • Dau eirda

Efallai y cynghorir myfyrwyr sydd wedi profi trawmâu neu brofedigaethau diweddar, neu a ystyrir gan y tiwtoriaid i fod yn rhy fregus ar hyn o bryd, i ohirio eu mynediad i’r cwrs.   Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o hunanymwybyddiaeth a'r gallu i adfyfyrio ar brofiad bywyd yn ogystal â bod â'r gallu i ymdopi â gofynion emosiynol ac academaidd y cwrs

Costau Ychwanegol

DBS Manwl - £46

Costau goruchwyliaeth (unwaith byddwch yn y lleoliad) £50 - £65 y mis (os na ddarperir yn rhad ac am ddim gan leoliadau)

Therapi personol - 20 sesiwn o leiaf £30 - £40 y sesiwn

Diwrnodau i ffwrdd - dau i dri dros y cwrs am £15 y dydd

Aelodaeth myfyriwr BACP - £86 y flwyddyn

Llyfrau - mae'r llyfrgell yn llawn adnoddau da ac mae'n cynnwys mwyafrif y llyfrau sy'n ofynnol ar gyfer eich cwrs, ond efallai y bydd rhai myfyrwyr am fod yn berchen ar gopïau o destunau craidd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.