Prentisiaeth - TG a Chyfrifiadura

Disgrifiad o'r Rhaglen

ER MWYN YMGEISIO AM Y BRENTISIAETH RHAID EICH BOD MEWN SWYDD

Rhaglen dysgu yn y gwaith ar Lefel 3 yw Prentisiaeth lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sydd ag elfen o gyfrifoldeb o fewn rôl eu swydd. Caiff y Prentis ei gyflogi a bydd yn derbyn o leiaf y cyflog Prentisiaeth lleiafswm cenedlaethol (gall hyn fod yn fwy fel y mynno'r cyflogwr). Bydd y Prentis yn mynychu'r Coleg trwy gael ei ryddhau am y dydd a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 o fewn y raddfa amser y cytunir arni.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Bydd angen rhwng 12 a 24 mis i gwblhau'r fframwaith Prentisiaeth, yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen

Bydd pob dysgwr yn cael ei gynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn mynd ati'n rheolaidd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni targedau. Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau fod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser. Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu'r Prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:

Diploma Lefel 3 mewn TG

Diploma Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Lefel 2: Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Hawliau a Chyfrifoldebau'r Gweithiwr

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r Brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch ar Lefel 4 os yw ar gael.

Asesu'r Rhaglen

Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gweithle a thystiolaeth yn y gweithle.

Gofynion y Rhaglen

Bydd llawer o gyflogwyr yn gofyn am 5 TGAU (A*-C) neu gymhwyster cyfwerth pan wneir cais am y rhaglen hon. Byddai cyflogwyr hefyd yn gwerthfawrogi Diploma Lefel 2 mewn TG (ar gyfer y rheiny sy'n 14-19 oed) neu'r fframwaith Prentisiaeth Sylfaen mewn TG.

Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.