Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd ysgol a choleg. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar gefnogaeth arbenigol, gan gynnwys: cynllunio; gweithredu ac adolygu strategaethau asesu i ategu dysgu ochr yn ochr â'r athro; cefnogaeth ddwyieithog; cefnogaeth anghenion arbennig; a datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.
Cipolwg
Rhan Amser
16 mis
Campws Graig
Cynnwys y Rhaglen
Nod y cymhwyster hwn yw:
Canolbwyntio ar astudio cefnogi addysgu a dysgu
Cynnig ehangder a dyfnder astudio, gan ymgorffori craidd allweddol o wybodaeth
darparu cyfleoedd i ennill nifer o sgiliau ymarferol a thechnegol.
Amcanion y cymhwyster hwn yw:
Rhoi dealltwriaeth fanwl i ddysgwyr o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn amgylchedd ysgol neu goleg
Darparu carreg sarn i ddysgu pellach o fewn y sector.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall dysgwyr symud ymlaen i’r Dystysgrif Lefel 4 ar gyfer yr Ymarferydd Uwch mewn Ysgolion a Cholegau, gradd sylfaen neu rolau arbenigol o fewn y gweithlu.
Asesu'r Rhaglen
Portffolio o dystiolaeth a gaiff ei asesu’n fewnol a’i sicrhau o ran ansawdd yn allanol.
Gan fod angen i ddysgwyr ddangos cymhwysedd mewn sgiliau a gwybodaeth, bydd angen iddynt fod yn gweithio neu fod ar leoliad ymarferol mewn amgylchedd dysgu (ysgol neu goleg) yn ystod cyfnod addysgu’r rhaglen astudio.
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio mewn rôl cymorth dysgu.
Rhinweddau a asesir mewn cyfweliad:-
Diddordeb mewn gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc, ac ymrwymiad i hynny.
Yn ddelfrydol, meddu ar rywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Y gallu i ymwneud yn dda â phlant, pobl ifanc ac oedolion.
Meddu ar gymhelliant i lwyddo o fewn y swydd.
Parodrwydd i fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain, dysgu a chymhwyso'r dysgu hwnnw yn y gweithle.
Gallu dangos bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cymwysterau sy’n rhan o’r brentisiaeth.
Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm a chyfathrebu’n effeithiol ag ystod o bobl.
Lefel briodol o rifedd a llythrennedd (yn Gymraeg neu Saesneg).
Parodrwydd i ymgymryd â gwiriad DBS gorfodol er mwyn gweld a ydynt yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.