Skip to main content

Peirianneg Amaethyddol Lefel 2

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 flwyddyn  

  • Campws Galli Aur

Mae’r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant llawn amser i fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg amaethyddol, sydd naill ai’n bwriadu ymuno â’r grefft neu sy’n dymuno symud ymlaen i lefel 3.  Mae’r hyfforddiant yn cynnwys atgyweirio, gwasanaethu a chynnal a chadw ystod eang o beiriannau amaethyddol ac ar dir.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol mewn rhifedd a llythrennedd.  Bydd cyfleoedd hefyd yn cael eu darparu ar gyfer TGAU mewn Saesneg a mathemateg, a fydd yn hanfodol er mwyn parhau i lefel tri.

Nodweddion y Rhaglen

Bydd y cwrs peirianneg amaethyddol hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector galwedigaethol priodol.  Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant ymarferol a damcaniaethol mewn peiriannau a chyfarpar amaethyddol ac ar dir.   

Cynnwys y Rhaglen
  • Peiriannau Amaethyddol
  • Technoleg Cerbydau Amaethyddol
  • Arferion Gweithdy
  • Technoleg Injan
  • Hydroleg Tractor
  • Systemau Trydanol
  • Iechyd a Diogelwch
  • Weldio a Ffabrigo
Dilyniant a Chyflogaeth

Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i gymhwyster peirianneg amaethyddol lefel 3 neu brentisiaeth mewn peirianneg amaethyddol.   

Dull asesu

Gwaith cwrs, arholiadau ar-lein, cardiau jobsys ysgrifenedig a phrofi sgiliau ymarferol.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Cymhwyster diploma lefel un neu 3 TGAU (gan gynnwys o leiaf un TGAU graddau A* - D) mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg a chyfweliad llwyddiannus. 

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr brynu bŵts diogelwch, oferôls a sbectol diogelwch cyn dechrau'r cwrs.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.