Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae Prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith ar Lefel 3 lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu".  Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn eu swydd.  Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth.  Mae gan y Prentis y dewis o gael ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg fel y cytunwyd ymlaen llaw gyda’r ymgynghorwr hyfforddi a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 o fewn y raddfa amser gytunedig. 

Cipolwg

  Llawn Amser

  Bydd angen rhwng 12 a 24 mis i gwblhau’r fframwaith Prentisiaeth, yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.  

  Campws Gelli Aur

Nodweddion y Rhaglen

  • Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)

Cynnwys y Rhaglen

Rhaid i’r dysgwr gyflawni’r holl Unedau Craidd yn ogystal ag unedau ychwanegol.  Bydd y dewis o unedau ychwanegol yn unigol i bob dysgwr yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei wneud yn y lleoliad.

Rhaid i ddysgwyr sy’n cwblhau’r Brentisiaeth Uwch gyflawni Uned 317 - sefydlu, monitro a chynnal hylendid safle a bio-ddiogelwch.

Y Sgiliau Hanfodol sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:-

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 2
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 2
  • (Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn y gorffennol)

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall y Brentisiaeth arwain at waith parhaol, Gradd Sylfaen neu raglen Brentisiaeth Lefel Uwch.

Asesu'r Rhaglen

Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gweithle a thystiolaeth yn y gweithle.

Gofynion y Rhaglen

Mae’r diwydiant amaeth am i’r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Uwch fod yn hyblyg, felly bydd Ymgynghorwyr Hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, naill ai lefel un, dau, tri neu bedwar. Mae yna ofynion meini prawf cymhwyster sy’n rhaid i bob darpar Brentis eu bodloni. Caiff hyn ei asesu yn y cyfweliad.

Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.