Mae Prentisiaeth Sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith Lefel 2, lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth. Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 o fewn y raddfa amser gytunedig.
Cipolwg
Rhan-amser
Bydd angen rhwng 12 a 24 mis i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen, yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
Campws Gelli Aur
Nodweddion y Rhaglen
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
Cynnwys y Rhaglen
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau, a fydd yn cynnwys unedau craidd ac ychwanegol. Bydd y dysgwr, y cyflogwr a’r ymgynghorydd hyfforddi yn dewis yr unedau ychwanegol gyda’i gilydd. Bydd y dewis o unedau ychwanegol yn unigol i bob dysgwr yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei wneud yn y lleoliad.
Hefyd bydd angen i’r dysgwr gyflawni:
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1
(Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn y gorffennol)
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth ar Lefel 3.
Asesu'r Rhaglen
Portffolio gwaith cwrs, cwestiynu ysgrifenedig a llafar, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Gofynion y Rhaglen
Nid oes yna ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth; fodd bynnag, ceir cymwysterau a phrofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn cychwyn ee:
Dyfarniad/Tystysgrif/Diploma Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith
Yn gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd
Bydd Ymgynghorwyr Hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, naill ai lefel un, dau, tri neu bedwar. Mae yna ofynion meini prawf cymhwyster sy’n rhaid i bob darpar Brentis eu bodloni. Caiff hyn ei asesu yn y cyfweliad. Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.