Prentisiaeth - Peirianneg ar Dir
Cipolwg
-
Rhan-amser
-
Bydd cwblhau’r fframwaith prentisiaeth yn cymryd 18 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
-
Campws Gelli Aur
Mae prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel tri lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd.
Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am floc i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel tri o fewn y raddfa amser gytunedig.
- Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd
- Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
- Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen
Bydd rhaid i ddysgwyr gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
- Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
- Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 2)
- Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol (Lefel 2)
- Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaeth uwch ar lefel pedwar os yw ar gael.
Gwaith cwrs, cwestiynau ysgrifenedig a llafar, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Mae’r diwydiant peirianneg ar dir am i’r gofynion mynediad ar gyfer y brentisiaeth fod yn hyblyg, felly mae wedi awgrymu y dylid cwblhau un o’r canlynol:
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
- Profiad ymarferol yn y diwydiant
- O leiaf pum mlynedd o brofiad ymarferol yn y diwydiant
- 5 TGAU (A-C) neu gymwysterau Safon Uwch
Mae yna ffi stiwdio o £150.00 ar gyfer y cwrs hwn, a bydd hyn yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ar gyfer datblygu gwaith ymarferol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.