Mae Prentisiaeth Sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith Lefel 2, lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu". Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth. Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am floc i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 o fewn y raddfa amser gytunedig.
Cipolwg
Llawn Amser
Bydd angen rhwng 12 a 24 mis i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen, yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
Campws Gelli Aur
Nodweddion y Rhaglen
Bydd pob dysgwr yn cael ei gynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn mynd ati'n rheolaidd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni targedau.
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau fod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu'r Prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ar Dir Seiliedig ar Waith
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1
Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol Lefel 1
(Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn y gorffennol)
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth ar Lefel 3.
Asesu'r Rhaglen
Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Gofynion y Rhaglen
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol
NVQ Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol
Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwraeth Ymarferol
Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefn Gwlad a’r Amgylchedd
Profiad ymarferol yn y diwydiant cadwraeth amgylcheddol
TGAU (A*-C)/Safon Uwch
Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.