Prentisiaeth Sylfaen mewn Cadwraeth Amgylcheddol

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae Prentisiaeth Sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu".  Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r dysgwr i ennill gwaith llawn amser yn y Diwydiant Cadwraeth Amgylcheddol.  Anelir y rhaglen at y dysgwyr sydd dros 16 oed.  Bydd y Prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentis.  Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 o fewn y raddfa amser gytunedig.  Bydd y dysgwr hefyd yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Cipolwg

  Rhan Amser

  Rhwng 12 a 24 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol  

  Campws Gelli Aur

Nodweddion y Rhaglen

  • Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
  • Bydd yna gyfleoedd i ennill tystysgrif gymhwysedd ychwanegol mewn cynnal a chadw a gweithredu llif gadwyn

Cynnwys y Rhaglen

Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys: -

  • Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
  • Tystysgrif Lefel 2 Lantra mewn Gweithgareddau ar Dir

Y Sgiliau Hanfodol sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:-

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1
  • (Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn y gorffennol)

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus ar y safon ofynnol, symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3

Asesu'r Rhaglen

Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith

Gofynion y Rhaglen

Nid oes yna ofynion mynediad penodol ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen Cadwraeth Amgylcheddol; fodd bynnag, mae yna gymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr ddeall y sector cyn dechrau, er enghraifft:-

  • Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwraeth Ymarferol
  • Diploma Lefel 1 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
  • Profiad gwirfoddol o fewn y sector cadwraeth amgylcheddol
  • Wedi gweithio’n flaenorol neu yn gweithio ar hyn o bryd o fewn y sector
  • TGAU

Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.