Prentisiaeth Uwch mewn Amaethyddiaeth

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae Prentisiaeth Uwch yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith ar Lefel 4 lle mae'r dysgwr yn "ennill wrth ddysgu".  Mae’r llwybr Rheolaeth Amaethyddol yn briodol ar gyfer rheolwyr uned sy’n gyfrifol am reolaeth menter benodol - h.y. uned ddefaid neu bîff.

Mae’r llwybr rheolaeth busnes Amaethyddol yn briodol ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol Fferm sy’n cynorthwyo Rheolwr Fferm gyda rheolaeth fferm.  Bydd y Prentis yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog Prentis.  Gall y cyflwyno gynnwys mynychu’r coleg un dydd yr wythnos, ar sail rhyddhau am floc byr neu ddysgu o bell.  Dylai’r dysgwr gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 4 o fewn y raddfa amser gytunedig.

Cipolwg

  Rhan Amser

  Rhwng 12 a 24 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol  

  Campws Gelli Aur

Nodweddion y Rhaglen

  • Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)

Cynnwys y Rhaglen

Llwybr 1 

Diploma Lefel 4 City & Guilds mewn Rheolaeth Busnes Amaethyddol Seiliedig ar Waith Llwybr 1 

Rhaid cyflawni Sgiliau Hanfodol er mwyn cwblhau’n llwyddiannus

Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 2 

Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 2 

Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol Lefel 2 

Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol



Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r Brentisiaeth Uwch hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Gyrsiau Addysg Uwch eraill.

Asesu'r Rhaglen

Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith

Gofynion y Rhaglen

Mae’r Diwydiant Amaethyddiaeth am i’r gofynion mynediad ar gyfer y brentisiaeth uwch fod yn hyblyg, felly mae wedi awgrymu y dylid cwblhau un o’r canlynol:  

Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith 

Tystysgrif Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith 

Dyfarniad Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth 

Tystysgrif Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth  

Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth  

Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Hwsmonaeth Moch 

Prentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth 

NVQ Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Cnydau/Da Byw 

Ystod dda o brofiad ymarferol yn y Diwydiant Amaethyddiaeth 

Gwaith gwirfoddol yn y Diwydiant Amaethyddiaeth 

5 TGAU (A*-C) 

2 UG/Safon Uwch 

Bydd ymgynghorwyr hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, sef un, dau, tri neu bedwar. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.