Skip to main content

Tystysgrif L2 RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • Blwyddyn, bob dydd Mercher

  • Gerddi Aberglasney

Anelir cymwysterau'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn bennaf at ymgeiswyr galwedigaethol sydd am ennill y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn gyrfa mewn garddwriaeth. Mae’r cwrs garddwriaeth RHS hwn yn ddelfrydol ar gyfer amaturiaid ymroddedig sy'n dymuno bod eu gwybodaeth a'u sgiliau garddwriaethol yn cael eu hasesu'n ffurfiol.

Caiff ei gynnal yng Ngerddi Aberglasne a hefyd ar gampws gwledig y coleg yn y Gelli Aur.

Mae’r cwrs yn cwmpasu sgiliau crefft hanfodol sy’n cynnwys plannu, tocio, lluosogi a chynnal a chadw planhigion ynghyd â sefydlu a rheoli glaswellt, a chynnal a chadw nodweddion gardd.

 Bydd dysgwyr hefyd yn gallu adnabod ystod o blanhigion, plâu, clefydau, pathogenau ac anhwylderau.

Nodweddion y Rhaglen

Lleolir y cwrs ar gampws y Gelli Aur a Gerddi Aberglasne, sydd â chyfleusterau ymarferol ardderchog ac sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ochr yn ochr â garddwriaethwyr profiadol.

Caiff myfyrwyr fynediad i'r llyfrgell ar gampws y coleg yn y Gelli Aur, sydd â stoc fawr o ddeunyddiau dysgu garddwriaethol.

Mae’r Gelli Aur wedi’i leoli yn nyffryn tawel a gwledig y Tywi ac mae’n gartref i ddarpariaeth amaethyddol y coleg.

Cynnwys y Rhaglen

Rydyn ni’n cwmpasu 8 testun:

  1. Adnabod Planhigion: darparu’r sgiliau a’r wybodaeth i alluogi dysgwyr i adnabod ystod eang o blanhigion.
  2. Sefydlu Planhigion: darparu’r sgiliau i ddysgwyr sy’n ymwneud â sefydlu planhigion mewn cynwysyddion ac yn y tir agored.
  3. Lluosogi Planhigion: darparu’r sgiliau a’r wybodaeth greiddiol i ddysgwyr ar gyfer lluosogi planhigion yn broffesiynol.
  4. Iechyd Planhigion: darparu’r sgiliau i allu adnabod ac atal ystod o fygythiadau i iechyd planhigion.
  5. Gofal Planhigion: rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr i allu rhoi cynlluniau cynnal a chadw gerddi ar waith.
  6. Tocio Planhigion: rhoi’r sgiliau garddwriaethol a’r wybodaeth i ddysgwyr i allu tocio amrywiaeth o blanhigion.
  7. Nodweddion Gardd: darparu’r sgiliau a’r wybodaeth greiddiol i ddysgwyr ar gyfer gallu gofalu am amrywiaeth eang o nodweddion gardd a’u cynnal a chadw.
  8. Ardaloedd Glaswelltog: darparu’r sgiliau i ddysgwyr sydd eu hangen i sefydlu a chynnal a chadw ardaloedd glaswelltog mewn lleoliadau gerddi preifat a chyhoeddus.
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr symud ymlaen i Dystysgrif Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygiad Planhigion.

Mae symud ymlaen i gymwysterau Level 3 RHS hefyd yn opsiwn.

Gellir trafod yr opsiynau hyn yn ystod y cwrs.

Dull asesu

Asesir drwy ystod o weithgareddau ymarferol a gaiff eu hamserlennu a'u hasesu o fewn y ganolfan gymeradwy.

Bydd asesu ar ffurf dau asesiad cymhwysedd ymarferol uniongyrchol gan aseswyr RHS ac asesiad ar-lein.

Bydd angen i ymgeiswyr basio pob un o’r tri asesiad yn llwyddiannus:

  1. Cynhelir yr asesiad cymhwysedd ymarferol cyntaf rhwng Ionawr - Mawrth.
  2. Cynhelir yr ail asesiad cymhwysedd ymarferol rhwng canol Ebrill tan ganol Gorffennaf
  3. Amserlennir yr asesiad cymhwysedd ar-lein ar gyfer diwedd Mehefin

Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y dystysgrif lefel dau ymarferol a Thystysgrif lefel 2 sail theori RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygiad Planhigion yn derbyn Tystysgrif lefel 2 RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth.

Gofynion Mynediad

Dylai fod gan ymgeiswyr rywfaint o brofiad gwaith yn y diwydiant neu dylent fod yn arddwyr profiadol. Does dim cymwysterau mynediad academaidd ar gyfer y cwrs hwn.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu am y cwrs cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, PPE a sisyrnau tocio a gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.