Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 2 Flynedd  

  • Campws Gelli Aur

Mae’r cwrs amaethyddiaeth dwy flynedd hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau craidd a ofynnir gan gyflogwyr yn y diwydiant amaethyddiaeth, fel arferion gwaith diogel, hwsmonaeth da byw, cynhyrchu cnydau a gweithredu peiriannau amaethyddol yn ogystal â sgiliau busnes.    Maen nhw’n eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel gradd yn y pwnc hwn neu bynciau cysylltiedig.  

Bydd yn ofynnol hefyd i chi gwblhau lleoliad gwaith wyth wythnos o hyd yn eich blwyddyn astudio gyntaf.

Fel rhan o'r rhaglen bydd dysgwyr hefyd yn astudio tuag at gymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.

Mae’r cwrs hwn yn gwrs lefel tri llawn amser sy’n gyfwerth â lefel Safon Uwch. 

Nodweddion y Rhaglen
  • Ffermydd ffantastig fel mannau addysgu awyr agored
  • Balans ardderchog o wersi ymarferol a theori
  • Tîm o staff gofalgar deallus ymroddgar
  • Dulliau addysgu arloesol
  • Ystod o ymweliadau â diwydiant, ffermydd a sioeau
  • Ystod o siaradwyr gwadd
Cynnwys y Rhaglen
  • Egwyddorion Iechyd a Diogelwch 
  • Ymgymryd â phrofiad cysylltiedig â gwaith yn y diwydiannau ar dir a’i adolygu 
  • Gweithrediadau peiriannau ym maes y diwydiant ar dir   
  • Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol 
  • Gwyddor Planhigion a Phridd 
  • Ymgymryd â Sgiliau Ystâd 
  • Hwsmonaeth Da Byw 
  • Rheolaeth Busnes yn y Sector Ar Dir
  • Cynhyrchu Cnydau Porthiant 
  • Iechyd a Maetheg Anifeiliaid Fferm 
  • Rheoli Glaswelltir 
  • Llygredd a Rheoli Gwastraff 
  • Cynhyrchu Llaeth 
  • Cynhyrchu Bîff 
  • Cynhyrchu Defaid 
  • Gwyddor Anifeiliaid Fferm 
  • Cerbydau Pob Tir (ATV) a Wagenni Fforch Godi Delesgopig Tir Garw 
  • Prosiect Arbenigol yn y Sector ar dir 
  • Arferion Gweithdy 
  • Rheoli Llygredd a Rheoli Gwastraff 
Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl gorffen, gallech: -

  • Astudio ar gyfer Gradd Sylfaen Lefel 4
  • Cofrestru ar Raglen Gradd BSc
  • Dod yn Brentis ar Fferm
  • Mae’n bosibl y byddwch yn symud ymlaen i weithio fel Cowmon/Rheolwr Buches, Technegydd Amaethyddol, magwr lloi neu stoc, Gweithredwr Peiriannau
Dull asesu

Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol gyda’r nod o brofi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Mae angen i bob ymgeisydd gael o leiaf pum TGAU gradd C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf).

Neu byddwch wedi ennill gradd teilyngdod/rhagoriaeth mewn cymhwyster lefel dau perthnasol ynghyd â dau TGAU graddau A* i C mewn mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf)

Fel rheol mae mynediad yn amodol ar gyfweliad a fydd yn dangos addasrwydd at amaethyddiaeth.  Mae’n hanfodol cael rhywfaint o brofiad o ffermio’n ymarferol.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.