Prentisiaeth mewn Garddwriaeth Lefel 2
Cipolwg
-
Rhan-amser
-
18 mis
-
Campws Gelli Aur
Rhaglen lefel 2 yw’r brentisiaeth sylfaen hon ac mae’n addas ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio yn y diwydiant Garddwriaeth. Bydd myfyrwyr, tra ar y rhaglen hon, yn dysgu, yn datblygu ac yn ymarfer y sgiliau sydd eu hangen yn y sector garddwriaeth i gynnwys sefydlu, rheoli a thyfu planhigion.
Cymysgedd o unedau ymarferol seiliedig ar gymhwysedd ac unedau damcaniaethol a fydd yn datblygu sgiliau pwnc dysgwyr. Gall prentisiaid ennill sgiliau mewn garddwriaeth fotanegol, cynnal a chadw gerddi, tai gwydr, ac arddangosfeydd.
- Tystysgrif Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Garddwriaeth
- Diploma C&G mewn Garddwriaeth yn y Gwaith - cynhyrchu portffolio o dystiolaeth ar gyfer pob uned ac asesiadau annibynnol.
- Sgiliau Hanfodol - Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu
Bydd cwblhau’r brentisiaeth sylfaen hon yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i gymwysterau lefel uwch gan gynnwys cymwysterau L3, cyrsiau prifysgol a/neu raglenni prentisiaeth uwch. Mae llawer o’r rheiny sy’n astudio’r cymhwyster hwn yn mynd ymlaen i gyfleoedd cyflogaeth yn y sector sy’n cynnwys Garddwr, Tirluniwr, Gweithiwr Meithrinfa Blanhigion, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Gofalwr y Grîn a Thirmon.
Asesiadau ar-lein/yn y ganolfan.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Garddwriaeth, fodd bynnag, byddai profiad yn y sector hwn yn fanteisiol. Rhaid i bob prentis fod yn gyflogedig ac yn cael ei gefnogi a'i gymeradwyo'n llawn gan y cyflogwr. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol L1 mewn Cyfathrebu Chymhwyso Rhif. Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.