Mae’r cymhwyster hwn yn eich galluogi chi, y dysgwr, i ddangos a chydnabod eich sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ac i ddangos eich cymhwysedd mewn amgylchedd gweithle go iawn fel y gallwch weithio mewn Gweithrediadau Mynediad a Rigio yn y diwydiant adeiladu.
Caiff y cymhwyster hwn ei gefnogi gan y Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC).
Cipolwg
Rhan Amser
12 mis
Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC)
Cynnwys y Rhaglen
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau’r unedau canlynol ar y Diploma Lefel 2 mewn Sgaffaldio:
Atal cwympiadau ym maes sgaffaldio L/504/7891
Gwybod am wybodaeth dechnegol, meintiau a chyfathrebu ag eraill A/504/7854
Gwybodaeth am dechnoleg adeiladu L/504/7860
Iechyd, diogelwch a lles ym maes adeiladu a diwydiannau cysylltiedig J/504/7856
Codi a datgysylltu sgaffaldiau to H/506/5121
Codi a datgysylltu sgaffaldiau tŵr alwminiwm parod D/506/5120
Codi a datgysylltu sgaffaldiau cantilifer K/506/5119
Codi a datgysylltu sgaffaldiau tŵr sylfaenol D/506/5117
Codi a datgysylltu sgaffaldiau annibynnol a phwtlog sylfaenol L/506/5114
Codi a datgysylltu sgaffaldiau cawell sylfaenol R/506/5115
Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Mynediad a Rigio (Adeiladu) - Sgaffaldio 600/8244/6.
Cydymffurfio ag Iechyd, Diogelwch a Lles Cyffredinol yn y Gweithle A/503/1170
Cydymffurfio ag Arferion Gwaith Cynhyrchiol yn y Gweithle J/503/1169
Codi a Datgysylltu Sgaffaldiau Cantilifer yn y Gweithle R/600/8276
Codi a Datgysylltu Sgaffaldiau Annibynnol a Chawell yn y Gweithle D/600/8264
Codi a datgysylltu tyrau sgaffaldiau symudol a sefydlog yn y gweithle T/600/8271
Codi a datgysylltu sgaffaldiau palmant neu do yn y gweithle M/600/8298
Symud, Trin a Storio Adnoddau yn y Gweithle F/503/1171
Defnyddio Darpariaeth Systemau a/neu Gyfarpar Amddiffyn rhag Cwympiadau yn y Gweithle M/600/8303
Datblygwyd y cymhwyster hwn ar gyfer cael ei gyflawni mewn amgylchedd gweithle go iawn sy'n golygu bod angen i chi fod yn gyflogedig i ymgymryd â'r cymhwyster hwn. Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi’r dysgwr i ddangos a chydnabod ei sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ac i ddangos ei gymhwysedd mewn amgylchedd gweithle go iawn fel y gall weithio mewn Gweithrediadau Mynediad a Rigio yn y diwydiant adeiladu.
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dechrau’r broses i gael cerdyn CISRS. Beth yw Cerdyn CISRS? Mae'r Cerdyn CISRS yn cael ei enw o’r cynllun hyfforddi Cynllun Cofnodi Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu. CISRS yw cynllun diwydiant y DU ar gyfer hyfforddiant sgaffaldiau. Mae CISRS yn darparu ystod o gardiau sgiliau ar gyfer y rheiny mewn gwahanol rolau sy'n ymwneud â sgaffaldiau.
Dulliau asesu
Portffolio ar gyfer NVQ
Asesiadau ymarferol
Arholiadau a phrofion ar-lein
Cewch eich asesu yn erbyn set o ddatganiadau perfformiad a gwybodaeth sydd wedi deillio o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer eich maes galwedigaethol. Byddwch yn cael eich hyfforddi a’ch asesu gan hyfforddwr sy'n gymwys yn alwedigaethol ac sydd â chymhwyster a'i swydd yw eich helpu i gwblhau eich cymhwyster chi.
Gofynion Mynediad
Does dim unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer dilyn y cymhwyster hwn. Gellir gwneud y cymhwyster hwn heb unrhyw hyfforddiant blaenorol neu gymwysterau yn y maes pwnc hwn.
Rhaid i ymgeiswyr nad oes ganddynt radd G neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth) wneud cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.