Mae’r Brentisiaeth Sylfaen Peirianneg mewn Ffabrigo a Weldio. Mae’n rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel dau lle mae'r dysgwr yn “ennill cyflog wrth ddysgu”. Bydd y Prentis Sylfaen yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth, gan gael ei ryddhau am ddiwrnod i fynychu’r coleg.
Bydd ymgeiswyr di-waith yn cael eu cyfeirio at gyrsiau hyfforddiant addysg bellach i helpu i'w paratoi ar gyfer prentisiaeth, nes iddynt ddod o hyd i waith a chael cynnig lle fel prentis.
Cipolwg
Llawn Amser
Bydd yn cymryd rhwng 18 a 24 mis i gwblhau’r fframwaith Prentisiaeth gan ddibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr a fydd yn ymweld â’r gweithle yn rheolaidd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni targedau.
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr a’r tîm addysgu i sicrhau bod cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y graddfeydd amser cytunedig.
Bydd y prentis yn dilyn NVQ yn y gweithle a fydd yn cael ei asesu gan yr Ymgynghorydd Hyfforddi / Aseswr.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
Diploma Estynedig NVQ Lefel 2 mewn Peirianneg (yn y gwaith)
Diploma Estynedig Lefel 2 mewn Technolegau Peirianneg (yn y coleg)
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif lefel 1*
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu lefel 1*
Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol lefel 1
* Mae cymwysterau procsi ar gael ar gyfer y rheiny sydd â gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae Prentisiaid Sylfaen eisoes yn gyflogedig ond gallent symud ymlaen i’r rhaglen brentisiaeth lefel 3.
Asesu'r Rhaglen
Caiff y rhaglen ei hasesu’n barhaol drwy waith cwrs, profion, aseiniadau, arsylwadau ymarferol a thystiolaeth yn y gwaith.
Gofynion y Rhaglen
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf pedwar TGAU gradd C neu uwch sy’n cynnwys Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg.
Costau Ychwanegol
Mae rhaglenni prentisiaeth wedi’u hariannu’n llawn.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.