Skip to main content

Datganiad Hygyrchedd

  • Mae Coleg Sir Gâr yn ymroddedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en

Nodweddion Hygyrchedd 

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio.  Rydym hefyd yn falch o weithio gyda 'Recite Me'; arweinydd ym maes technoleg hygyrchedd.

Ymweld â gwefan Recite Me 

Ar frig pob tudalen ar ein gwefan, fe welwch fotwm lansio ar gyfer ein bar offer ‘Recite Me’.

Mae ‘Recite Me’ yn gwneud gwefannau’n hygyrch i ddefnyddwyr a all fod ag anawsterau dysgu, dyslecsia, nam ysgafn ar y golwg neu Saesneg fel ail iaith. Mae hyn yn effeithio ar 20% o boblogaeth y DU.

Mae Recite yn gweithio ar draws POB dyfais a llwyfan.  Mae’n cynnig technoleg cwmwl - dim byd i’w lawrlwytho

  • Cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Ewrop a’r DU
  • Trosiadau testun i leferydd
  • Cyfieithu cynnwys gwefan yn awtomatig i 52 o ieithoedd

Fideo Rhagarweiniol Recite Me 

Nodweddion Bar Offer Cynorthwyol Recite Me 

Canllaw Defnyddiwr Recite Me

Cwestiynau Cyffredin Recite Me

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd yr elfennau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

WCAG 4.1.2 

  • Nid oes testun canfyddadwy gan y botymau captcha ar y ffurflen ‘Cysylltu â ni’. Gwnaed adroddiad am y mater hwn wrth ddatblygwyr yr ategyn, sydd wedi cytuno i’w atgyweirio yn eu diweddariad nesaf. Graddfa amser i atgyweirio - Dibynnol ar y datblygwyr - byddwn yn gweithredu unrhyw ddiweddariadau cyn gynted ag y byddant ar gael.

WCAG 2.1.1

  • Mae defnyddio nodweddion Darllenydd Sgrin a mynediad bysellfwrdd ar yr un pryd yn achosi i rai elfennau ddychwelyd i fod yn anhygyrch. Mae hyn oherwydd gwrthdaro cydnawsedd rhwng lluniwr tudalennau YooTheme Pro a bar offer hygyrchedd ReciteMe. Mae Coleg Sir Gâr wedi bod mewn cysylltiad â’r datblygwyr sy’n gweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau i’r materion hyn. Graddfa amser i atgyweirio - Dibynnol ar ddatblygwyr Yootheme  - byddwn yn gweithredu unrhyw ddiweddariadau cyn gynted ag y byddant ar gael.

WCAG 2.4.4 and WCAG 4.1.2 

  • Cynfas Cau - Mae hwn yn cyfeirio at yr ‘X’ i gau’r ddewislen symudol (y gellir ei gyrchu trwy chwyddo 200%). Mae hyn oherwydd lluniwr tudalennau YooTheme ac nid yw'n rhywbeth rydym yn gallu ei newid ar hyn o bryd. Mae YooTheme yn ymwybodol o'r angen i fynd i'r afael â'r mater hwn a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar waith cyn gynted ag y byddant ar gael i ni. Graddfa amser i atgyweirio - Dibynnol ar ddatblygwyr Yootheme  - byddwn yn gweithredu unrhyw ddiweddariadau cyn gynted ag y byddant ar gael.
  • Ar hyn o bryd, nid yw’r ategyn Breezing Forms yn caniatáu i Aria Labels gael eu hychwanegu at fotymau ffurflenni er mwyn cael testun canfyddadwy. Mae Coleg Sir Gâr wedi cysylltu â datblygwr yr ategyn Breezing Forms sydd wedi cadarnhau y bydd y nodwedd hon wedi’i chynnwys yn y diweddariad nesaf i’r ategyn Breezing Forms. Graddfa amser i atgyweirio - Dibynnol ar Breezing Forms  - byddwn yn gweithredu unrhyw ddiweddariadau cyn gynted ag y byddant ar gael.

WCAG 2.4.2 

  • Nid yw meddalwedd darllenydd sgrîn yn gweithio’n llwyr gyda dogfennau PDF hanesyddol ac efallai nad oes ganddynt deitlau tudalen priodol. Byddwn yn sicrhau bod yr holl gynnwys newydd yn cael ei greu gan ystyried hygyrchedd a byddwn yn gweithio i drwsio dogfennau hanesyddol a grëwyd ers 23 Medi 2018. Graddfa amser i atgyweirio - Byddwn yn anelu at atgyweirio hyn erbyn diwedd 2023, yn amodol ar adolygiad.

WCAG 2.4.4 

  • Nid oes gan rai hyperddolenni hanesyddol destun unigryw neu ystyrlon. Byddwn yn sicrhau bod gan bob hyperddolen newydd destun unigryw neu ystyrlon a byddwn yn gweithio’n ôl-weithredol i drwsio hyperddolenni, gan ddileu URLS crai a diweddaru copi dolen. Graddfa amser i atgyweirio - Byddwn yn anelu at atgyweirio hyn erbyn diwedd 2023, yn amodol ar adolygiad.

WCAG 1.4.3

  • Nid oes gan rai elfennau hanesyddol o'r wefan ddigon o gyferbyniad lliw. Dewiswyd gosodiadau lliw eang y wefan i gydymffurfio â chanllawiau WGAC a byddwn yn sicrhau bod yr holl gynnwys newydd yn hygyrch. Byddwn yn gweithio i ddiweddaru cynnwys hanesyddol i ddod ag ef i fyny i safon. Graddfa amser i atgyweirio - Byddwn yn anelu at atgyweirio hyn erbyn diwedd 2023, yn amodol ar adolygiad.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd:

WCAG 2.4.2 

  • Nid yw dogfennau PDF hanesyddol yn bodloni safonau hygyrchedd; er enghraifft, efallai na fyddant yn cael eu marcio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni atgyweirio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw ddogfennau newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Archwilio a phrofi

Mae Coleg Sir Gâr yn y broses o gontractio CTI Digital Ltd i ddarparu archwiliad hygyrchedd cynhwysfawr o’n gwefan. Caiff y gwaith hwn ei gwblhau erbyn haf 2023.

Hefyd rydyn ni wedi gosod yr estyniad porwr Axe Accessibility er mwyn i ni allu profi a gwella tudalennau yn fwy rheolaidd, wrth iddynt gael eu hadeiladu neu eu diweddaru.

Datganiad baich anghymesur

Yn unol â chanllawiau hygyrchedd rydym wedi cynnal asesiad baich anghymesur ac wedi penderfynu, oherwydd maint bach tîm y wefan a’r costau sy’n gysylltiedig â chymorth hygyrchedd trydydd parti, y byddai canolbwyntio ar ddiweddaru cynnwys hanesyddol yn niweidiol i waith parhaus y sefydliad.  Teimlwn ei fod yn ddefnydd gwell o’n cyllid cyhoeddus i sicrhau bod yr holl gynnwys yn y dyfodol, yn ogystal ag unrhyw gynnwys sy’n hanfodol i’n gweithrediadau, yn bodloni gofynion hygyrchedd. I wneud hyn byddwn yn datblygu gweithdrefnau gwefan mewnol cadarn, yn sicrhau bod y tîm yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant arfer gorau ac yn creu'r holl gynnwys gyda dull sy’n rhoi hygyrchedd yn gyntaf. Byddwn hefyd yn parhau i gysylltu â'r datblygwyr a sicrhau bod ein technoleg yn gyfredol. 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 15/02/2023.

Paratowyd y datganiad hwn mewn ymateb i archwiliad hygyrchedd a gwblhawyd gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ar dudalennau dethol o wefan Coleg Sir Gâr.

Adolygu

Caiff y datganiad hwn ei adolygu a’i ddiweddaru ar ddiwedd 2023.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, neu os oes gennych unrhyw adborth ar hygyrchedd presennol gwefan Coleg Sir Gâr, cysylltwch ag

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
01554 748000

Byddwn yn adolygu'r cais ac yn cysylltu â chi gyda datrysiad o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.