Diweddariad Coronafeirws
Diweddariad ar gyfer dysgwyr a rhieni ynghylch dychwelyd i'r coleg Ionawr 2022
Blwyddyn newydd dda i chi i gyd; gobeithiwn eich bod wedi cael gwyliau Nadolig da.
Wrth i ni edrych ymlaen at y tymor hwn, ein blaenoriaeth yw eich cadw chi i gyd yn ddiogel ac i barhau â dysgu gyda’r tarfu lleiaf posibl.
Mae tymor y Coleg yn cychwyn ddydd Iau 6ed Ionawr 2022 ar gyfer pob dysgwr.
Dylech fynychu eich Campws yn y ffordd arferol, oni bai bod eich Cyfadran yn dweud wrthych fel arall. Os oes angen symud unrhyw un o'ch gwersi ar-lein, bydd arweinwyr cyrsiau yn cysylltu trwy Googleclassroom/chat erbyn dydd Mercher 5ed Ionawr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob dysgwr wneud tri phrawf llif unffordd yr wythnos ar fore Llun, Mercher a Gwener cyn mynychu'r coleg a rhoi gwybod am eu canlyniadau yma. Gellir casglu citiau prawf am ddim o Swyddfeydd y Campysau.
Y tymor hwn, mae'n ofynnol i bob dysgwr wisgo gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth, llyfrgelloedd, gweithdai, stiwdios ac ar gludiant bob amser oni bai eu bod wedi'u heithrio'n feddygol. Dim ond wrth fwyta neu yfed y gellir tynnu masgiau mewn ffreuturau a chaffis.
Manteisiwch ar y cyfle i gael eich brechu/pigiad atgyfnerthu cyn gynted â phosibl. Gellir cyrchu gwybodaeth yma.
Os oes gennych unrhyw symptomau covid-19, ewch ati i hunanynysu a threfnwch brawf PCR a pheidiwch â mynychu'r coleg nes eich bod wedi cael canlyniad negatif wedi'i gadarnhau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch dychwelyd i'r coleg, cysylltwch ag arweinydd eich cwrs/tiwtor personol cyn i chi fynychu.
Newidiadau Pwysig i ddechrau 2022
O ystyried yr ansicrwydd presennol wrth i ni agosáu at y Nadolig, rydym wedi penderfynu trefnu dau ddiwrnod cynllunio ddydd Mawrth 4ydd a dydd Mercher 5ed Ionawr.
Ni fydd unrhyw addysgu ar y diwrnodau hyn. Ar y cam hwn, rydym yn rhagweld y bydd cyflwyno wyneb yn wyneb yn ailddechrau o ddydd Iau 6ed Ionawr. Bydd unrhyw newidiadau i’r cynllun hwn yn cael eu cyfathrebu drwy ein gwefan a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig.
Llawer o ddiolch am eich cefnogaeth barhaus a derbyniwch ein hymddiheuriadau am unrhyw darfu a achoswyd.
Cais am Wirfoddolwyr - 9 Rhagfyr 2021
Dros yr ychydig o fisoedd nesaf, nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu nifer y brechiadau a ddarperir i'n poblogaeth drwy ein Canolfannau Brechu Torfol.
Yn Hywel Dda mae gennym Ganolfannau Brechu Torfol yn Llanelli, Castell Newydd Emlyn, Aberystwyth, Caerfyrddin, Hwlffordd a Dinbych-Y-Pysgod.
Er mwyn cefnogi llif y claf a nifer y cleifion sy'n dod drwy'r Canolfannau hyn, mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol gan naill ai fod yn gwirfoddolwyr meysydd parcio a/neu gwirfoddolwyr cwrdd a cyfarch. Heb wirfoddolwyr, byddai'r Canolfannau'n ei chael hi'n anodd rheoli.
Rydym yn gofyn a fyddai gennych ddiddordeb mewn cefnogi un o'n Canolfannau Brechu Torfol yn eich ardal fel gwirfoddolwr. Y sifftiau sydd ar gael yw:
9 y bore - 1 y prynhawn. 1 y prynhawn - 5 y prynhawn. 5 y prynhawn – 9 yn hwyr.
Byddai helpu fel gwirfoddolwr yn gyfle gwych i ymgymryd â rhywfaint o waith cymunedol a all gefnogi eich Gwobrau Dug Caeredin, Bagloriaeth Cymru a cheisiadau UCAS.
Os ydych dros 16 oed ac os oes gennych ddiddordeb mewn helpu, cysylltwch â ni drwy e-bostio:
Llywodraeth Cymru - amrywiolyn Omicron - 30 Tachwedd
Heddiw rydym wedi derbyn cadarnhad gan y Gweinidog Addysg bod RHAID gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man lle nad oes modd cynnal pellter cymdeithasol o 2m. Bydd hyn ar waith am weddill y tymor. Felly, o yfory, dydd Mercher 1af Rhagfyr 2021, bydd yn ofynnol i’r holl staff a myfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb ledled y Coleg (gan gynnwys mewn ystafelloedd dosbarth, gweithdai a swyddfeydd staff lle nad oes modd cynnal 2m).
Bydd cyfarfodydd mawr o staff hefyd yn symud ar-lein.
Nid oes ond ychydig o eithriadau:
-
Pawb sydd wedi’u heithrio’n feddygol rhag gwisgo gorchuddion wyneb
-
Cyfarfodydd bach lle mae modd cynnal pellter cymdeithasol o 2m
-
Swyddfeydd lle mae modd cynnal pellter cymdeithasol o 2m NEU ffactorau lliniarol eraill, hy, mae sgriniau persbecs ac awyru ar waith.
Yn anffodus, ni ellir cynnal unrhyw ddigwyddiadau Nadolig dan do sy’n annog pobl i ymgynnull ac ni fydd unrhyw deithiau addysgol yn digwydd am weddill y tymor. Gall nosweithiau rhieni a chyfweliadau myfyrwyr a drefnwyd ymlaen llaw fynd rhagddynt, gyda mesurau lliniarol priodol ar waith (Sgriniau persbecs, awyru, pellter cymdeithasol o 2m a masgiau).
Diolch diffuant i chi am eich cydweithrediad parhaus o dan yr amgylchiadau heriol hyn.
Diweddariad profi llif unffordd - 26 Tachwedd
Diolch i chi am eich cefnogaeth wrth i ni ddechrau tymor yr hydref-gaeaf.
Ers dechrau mis Medi, mae lefelau profi llif unffordd a PCR wedi bod yn uwch nag erioed, gan alluogi i ni ddarganfod mwy o achosion. Mae’r cynnig i brofi yn parhau i fod yn wirfoddol, ond ar ôl ymgynghori â swyddogion iechyd y cyhoedd ac ystyried y data mwyaf diweddar rydym yn argymell bod lleoliadau yn parhau i gynnig profion llif unffordd heb symptomau tra eu bod yn parhau i fod ar agor ym mis Rhagfyr i mewn i’r flwyddyn newydd. Bryd hynny, bydd swyddogion yn adolygu'r data sydd ar gael unwaith eto ac yn cyfleu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib.
Tra bod lleoliadau ar gau, mae profion llif unffordd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un dros 11 oed i brofi ddwywaith yr wythnos (bob 3 neu 4 diwrnod) heb symptomau COVID-19.
Rydym yn eich annog i gymryd prawf:
- os ydych yn mynd i fod mewn sefyllfa risg uwch, gan gynnwys treulio amser mewn mannau prysur neu dan do
- cyn i chi ymweld â phobl sydd â risg uwch o salwch difrifol o COVID-19
- os ydych yn teithio i rannau eraill o Gymru neu’r DU.
Yn y flwyddyn newydd, rydym yn annog staff a dysgwyr dros 11 oed i brofi ddwywaith gyda phrofion llif unffordd (3 neu 4 diwrnod ar wahân) yn yr wythnos cyn dychwelyd i’r ysgol neu goleg ac yna, i barhau i brofi’n rheolaidd ddwywaith yr wythnos am bythefnos ar ôl dechrau’r tymor ysgol ym mis Ionawr. Dylai unigolion ddefnyddio’u stoc eu hunain o brofion llif unffordd neu os yw eu lleoliad ar gau, archebu o’r sianel gymunedol os oes angen cyflenwad ychwanegol.
Rydym hefyd yn ystyried sut gall brofi gael ei ddefnyddio yn y tymor hirach fel rhan o ystod o fesurau o fewn y Fframwaith Penderfyniadau Lleol ar gyfer ysgolion a darparwyr dysgu ôl-16. Bydd mwy o wybodaeth ar y pwnc yma yn cael ei rannu cyn gynted â phosib.
HUNANYNYSU - 29 Hydref 2021
Rydych chi'n blentyn o dan 5 oed.
Nid oes angen i chi gael prawf na hunanynysu.
Rydych chi dros 18 oed ac wedi'ch brechu'n llawn.
Dylech hunan-ynysu a sefyll prawf PCR.
Hunan-ynysu tan y canlyniad.
Os yw'r canlyniad yn negyddol gallwch roi'r gorau i ynysu.
Os yw'r canlyniad yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod.
Rydych chi rhwng 5-17 oed.
Dylech hunan-ynysu a sefyll prawf PCR.
Hunan-ynysu tan y canlyniad.
Os yw'r canlyniad yn negyddol gallwch roi'r gorau i ynysu.
Os yw'r canlyniad yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod.
Rydych chi dros 18 oed a heb gael eich brechu'n llawn.
Dylech hunan-ynysu a sefyll prawf PCR.
Hunan-ynysu tan y canlyniad.
Os yw'r canlyniad yn negyddol gallwch roi'r gorau i ynysu.
Os yw'r canlyniad yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod.
Neges gan y Pennaeth - Gorffennaf 8 2021
Helo bawb
Mae hon wedi bod yn un o’r blynyddoedd mwyaf heriol erioed ym myd addysg ac yn wir i fywyd yn gyffredinol. Fodd bynnag, wrth edrych yn ôl, mae’r hyn y mae’r Coleg wedi’i gyflawni wedi bod yn wirioneddol anhygoel ac rwyf mor falch o sut mae pawb yn y Coleg wedi tynnu at ei gilydd i sicrhau bod ein dysgwyr a'n staff mor ddiogel â phosibl a bod dysgwyr wedi gallu symud ymlaen yn eu dysgu.
Yn dilyn cyflwyno’r rhaglen frechu’n llwyddiannus, rwy’n obeithiol iawn am y dyfodol, ac ar yr amod na fydd unrhyw faterion Iechyd Cyhoeddus pellach yn codi yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, rwy'n hyderus y byddwn yn dychwelyd i normal newydd ym mis Medi, gyda nodweddion tebyg i’r arfer cyn i’r pandemig ddechrau.
Hoffai Bwrdd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a minnau ddiolch i chi i gyd am y ffordd rydych wedi delio â nifer o wahanol heriau eleni ac rydym wedi ein calonogi gan y ffordd rydyn ni i gyd wedi cefnogi ein gilydd.
Mwynhewch yr haf, daliwch ati i fod yn garedig i chi eich hun ac i’ch gilydd, ac yn bennaf oll, cadwch yn ddiogel.
Andrew
Cynlluniau Amlinellol Ar Gyfer Wedi’r Pasg (O ddydd Llun 12 Ebrill i ddydd Gwener 30 Ebrill)
Ar ôl y Pasg, byddwn yn dychwelyd i fodel cyflwyno tebyg i’r hyn a weithredwyd gennym am y rhan fwyaf o dymor yr Hydref: h.y.
- Bydd yr holl ddysgwr ôl 16 llawn amser (AB/AU) ar y campws yn rhannol, ar gyfer cyflwyno wyneb yn wyneb, mewn grwpiau cyswllt wedi’u diffinio’n ofalus, gyda chyflwyno gartref yn ychwanegol at hynny;
- Bydd yr holl ddisgyblion ysgol 14-19 yn dychwelyd i gyflwyno wyneb yn wyneb llawn, mewn grwpiau cyswllt bach;
- Bydd yr holl fyfyrwyr ILS llawn amser yn dychwelyd i gyflwyno wyneb yn wyneb llawn, mewn grwpiau cyswllt wedi’u diffinio’n ofalus, yn Aberystwyth a Rhydaman;
- Bydd yr holl ddysgwyr rhan-amser (AB/AU/DSW) yn parhau i weithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol o 2m.
Fel y nodir uchod, bydd grwpiau cyswllt ar waith unwaith eto. Bydd y rhain mor fach ag y gallwn yn ymarferol eu gwneud er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl os bydd prawf positif.
Bydd profion llif unffordd (LFT) ar gael yn wirfoddol i’r holl staff a myfyrwyr sy’n mynychu’r safle. Gofynnir i unrhyw staff neu fyfyriwr sy’n profi’n bositif i ynysu a mynychu prawf PCR yn eu canolfan brofi leol. Dim ond profion PCR positif fydd yn arwain at weithredu pellach o fewn y grwpiau cyswllt gan y Coleg.
Bydd hi’n ofynnol o hyd i staff gadw pellter cymdeithasol o 2m oddi wrth gydweithwyr a myfyrwyr.
Bydd awyru da yn parhau i fod yn hanfodol yn yr holl ardaloedd dysgu a chyhoeddus.
Bydd arferion hylendid rhagorol yn angenrheidiol o hyd a bydd gel dwylo a chadachau yn parhau i fod ar gael yn eang.
Bydd yn angenrheidiol gwisgo gorchudd wyneb yn holl rannau cymunedol y Coleg. Mewn ystafelloedd dosbarth a gweithdai, lle bydd grwpiau cyswllt ar waith, bydd yn ddewisol.
Bydd holl ffreuturau’r Coleg yn ail-agor yn ystod y dydd. Gellir tynnu masgiau wyneb wrth fwyta mewn caffis a ffreuturau. Bydd cadw at barthau yn parhau i fod ar waith mewn ffreuturau mawr lle mae hyn yn bosibl.
Bydd rhwydwaith cludiant y Coleg ar gael ac mae’n debygol iawn y bydd y bysiau gwasanaeth sy’n cysylltu yn ôl i'r amserlen lawn. Bydd yr holl ddysgwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar gludiant y coleg (oni bai bod yna eithriad meddygol).
Bydd llyfrgelloedd y coleg ar agor bob dydd, ar bob safle perthnasol. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi’u hamserlennu i fynychu’r Coleg ar ddiwrnod arbennig yn gallu bwcio nifer cyfyngedig o leoedd astudio yn y llyfrgell ymlaen llaw os oes angen.
Bydd y Gampfa yn Llanelli ar agor at ddibenion cwricwlwm ac asesu yn unig, ond nid yn ehangach i staff neu'r cyhoedd.
Bydd y caeau chwarae awyr agored yn Llanelli ar gael at ddibenion cwricwlwm, asesu ac ymarfer, ond ni fydd gemau cystadleuol yn bosibl. Byddan nhw hefyd ar gael i’w llogi gan y cyhoedd o dan yr un telerau ac amodau.
Bydd yr arenâu marchogaeth ym Mhibwrlwyd ar gael at ddibenion cwricwlwm, asesu a hyfforddi. Byddan nhw hefyd ar gael i’w llogi gan y cyhoedd ar gyfer clinigau, ond ni fydd cystadlaethau’n bosibl.
Bydd salonau a bwytai hyfforddi ar agor at ddibenion cwricwlwm, asesu a hyfforddi, ond ni fyddant ar agor i’r cyhoedd ehangach. Gall myfyrwyr ymarfer technegau ar aelodau o’u grŵp cyswllt os oes angen.
Bydd mwy o hyblygrwydd, gydag agor gyda'r nos ar gyfer rhai gweithgareddau.
Gellir trefnu (neu ailgydio mewn) lleoliadau gwaith ar gyfer dysgwyr AB a Hyfforddeiaethau, yn amodol ar gynnal asesiadau iechyd a diogelwch ac asesiadau risg cyfredol.
Fel bob amser, bydd y dull hwn yn cael ei arwain gan gyngor gan Lywodraeth Cymru a gall newid ar fyr rybudd.
Sylwch y gall fod yn bosibl, gyda digon o le a chyngor priodol gan Lywodraeth Cymru, i lacio rhai o'r mesurau a amlinellir uchod, yn gynharach na'r disgwyl.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl.
Trefniadau Asesu Haf 2021
I gael y wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Gymwysterau Cymru am drefniadau asesu’r haf yng Nghymru, cysylltwch yma >>
Profion Llif Unffordd (LFTS) - beth sydd angen i chi ei wneud …
Casglwch brawf o’r swyddfa gampws. Ewch ati i gynnal y prawf yn eich cartref a dilynwch y cyfarwyddiadau a ddarperir. Bydd y canlyniad ar gael o fewn 30 munud.
Yn dibynnu ar y canlyniad, bydd angen i chi weithredu fel a ganlyn:
Prawf Positif - Bwciwch brawf cadarnhau PCR mewn canolfan brofi, yn ddelfrydol o fewn 24 awr i’r Prawf Llif Unffordd (LFT). Hunan-ynyswch ar unwaith am 10 niwrnod. Peidiwch â mynychu unrhyw un o safleoedd y coleg na chwrdd â myfyrwyr y coleg. Os yw’r prawf PCR yn negatif, gallwch ddychwelyd i’r coleg cyhyd â bod y prawf PCR wedi’i gynnal o fewn y cyfnod 24 awr ac nad ydych wedi datblygu unrhyw symptomau wedi hynny.
Bydd canlyniad PCR negatif o brawf a wnaed fwy na 24 awr ar ôl yr LFT yn golygu bod yn rhaid i chi barhau i hunan-ynysu o ddyddiad yr LFT. Rhaid i chi gofnodi’r canlyniad ar-lein neu drwy ffonio 119 yn unol â chyfarwyddiadau'r GIG a ddarperir a rhoi gwybod i’r coleg.
Prawf Negatif - Cofnodwch eich canlyniad ar-lein yn unol â chyfarwyddiadau’r GIG a ddarperir a mynychwch y coleg fel arfer. Bydd angen i chi roi gwybod i’r swyddfa gampws am y canlyniad.
Prawf Annilys - Gwnewch brawf arall. Os yw’r ail brawf yn annilys, rhaid i chi wneud bwciad ar gyfer prawf PCR. Os digwydd hyn, nid oes angen i chi hunan-ynysu nes bod canlyniad y prawf PCR yn hysbys.
Os yw’r canlyniad PCR yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu o ddyddiad y prawf PCR. Dylid cofnodi profion annilys ar-lein hefyd.
Cadw’n Ddiogel rhag Covid - Profwch eich Hun!
Wrth i staff a myfyrwyr ddychwelyd i safleoedd y coleg, mae gan bawb y cyfle i gasglu Prawf Llif Unffordd (LFT) am ddim o’r swyddfeydd campws. Mae gan lawer o bobl â COVID-19 symptomau ysgafn, neu hyd yn oed ddim symptomau o gwbl, ond gallant ledaenu'r firws o hyd. Mae’r profion yn rhoi tawelwch meddwl i chi a’ch anwyliaid eich bod chi’n glir o COVID-19 tra eich bod chi’n mynychu’r coleg. Gallwch gwblhau’r prawf eich hunan yng nghysur eich cartref eich hun, ddwywaith yr wythnos. Mae’r canlyniadau ar gael ar ôl 30 munud.
Er nad yw’n ofynnol i unrhyw un gymryd prawf llif unffordd, mae Llywodraeth Cymru’n argymell bod staff a myfyrwyr y coleg yn gwneud prawf nos Sul a nos Fercher bob wythnos tra eich bod chi’n mynychu safleoedd y coleg. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen ganiatâd fer pan fyddwch yn casglu eich prawf. Darperir canllaw cyfarwyddiadau llawn gyda’r prawf.
Mae mwy o wybodaeth am brofion llif unffordd ar gael yma:
https://www.youtube.com/watch?v=ebxhEOLfTN0
Dychwelyd yn raddol i’r Coleg
Neges i ddysgwyr - Chwefror 9 2021
Helo bawb, rwy’n gobeithio eich bod chi a'ch anwyliaid yn ddiogel ac yn iach ac yn parhau i ddilyn y canllawiau cenedlaethol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r Coleg yn gweithio yn bennaf mewn amgylchedd gweithio o bell ac rwyf mor falch bod dysgwyr yn dal i fynychu dosbarthiadau a sesiynau cymorth ar-lein wrth i’r cyfnod clo barhau.
Ar ôl hanner tymor (22ain Chwefror), ac yn dilyn y cyhoeddiadau mwyaf diweddar a wnaed gan y Gweinidog Addysg, byddwn yn gwahodd nifer fach o ddysgwyr i mewn i’r Coleg i gael peth hyfforddiant ac i gwblhau asesiadau ymarferol hanfodol y mae angen eu cwblhau er mwyn iddynt gwblhau eu cymwysterau eleni. Bydd y Coleg yn cysylltu â chi os yw hyn yn berthnasol i chi.
Ar hyn o bryd mae'r meysydd lle bydd hyn yn digwydd yn cynnwys:
- Peirianneg fodurol (Aberteifi a Phibwrlwyd)
- Peirianneg amaethyddol (Y Gelli Aur)
- Crefftau adeiladu (Rhydaman ac Aberteifi)
- Peirianneg Fecanyddol / Drydanol (Y Graig, Llanelli)
- Coginio proffesiynol Lefel 3 (Aberystwyth, Aberteifi a Phibwrlwyd)
Bydd y cam dychwelyd newydd hwn (Cam 1) yn cynnwys gweithdrefnau gweithredol newydd y mae'n rhaid i ni i gyd eu dilyn. Maen nhw’n cynnwys:
- Bydd mynedfeydd ac allanfeydd i'r campws yn cael eu rheoli'n llym drwy bwyntiau mynediad cyfyngedig - bydd myfyrwyr yn cael gwybod amdanynt ymlaen llaw.
- Bydd rhaid cadw pellter cymdeithasol o 2m bob amser ar y campws.
- Ni chaniateir cymdeithasu rhwng myfyrwyr pan fyddant ar y campws.
- Ni fydd unrhyw ‘swigod’ ar waith fel yn ystod tymor yr hydref.
- Rhaid gwisgo masgiau wyneb meddygol 3-Ply drwy gydol y dydd - gan gynnwys yn y dosbarth.
- Bydd cyflenwad o’r masgiau hyn ar gael i fyfyrwyr ar bob campws.
- Ni fydd cludiant y coleg yn gweithredu yn ystod y cam cyntaf hwn.
- Ni fydd y caffis / ffreuturau ar agor, felly bydd angen pecynnau cinio.
- Ni ddylai myfyrwyr na staff fynychu os ydynt yn teimlo’n sâl neu’n dangos symptomau o Covid 19.
- Ni ddylai myfyrwyr na staff fynychu os ydynt wedi bod mewn cysylltiad diweddar â phobl sy’n dangos symptomau o Covid 19.
- Rhaid i’r myfyrwyr a staff hynny sydd yn y categori agored i niwed yn glinigol beidio â mynychu.
Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch chi yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i ni gymryd y camau bach ond pwysig hyn wrth ddychwelyd i fywyd Coleg. Er y bydd llawer ohonoch yn parhau i ddysgu o bell am y tro, gobeithio na fydd hi’n rhy hir cyn y gwelwn nifer fwy ohonoch yn dychwelyd i’r Campws yn ddiogel.
Fel bob amser, diolch am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad parhaus.
Dr Andrew Cornish
Prif Weithredwr / Pennaeth
Chwefror 5 2021
Yn dilyn cyhoeddiad heddiw (5 Chwefror) gan y Gweinidog Addysg, rydym yn cynllunio ail-agoriad graddol a chyfyngedig o 22 Chwefror ar gyfer nifer fach o ddysgwyr galwedigaethol.
Bydd mwy o fanylion yn dilyn yn gynnar yr wythnos nesaf.
Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru
Ionawr 29 2021
Llywodraeth Cymru Mae LlC wedi cadarnhau heddiw y byddwn yn parhau dan gyfnod clo am y 3 wythnos nesaf ac y bydd dysgu o bell a gweithio gartref yn parhau tan o leiaf hanner tymor.
Bydd dysgu ar-lein yn parhau tan o leiaf ddydd Gwener 29 Ionawr mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru (y dyddiad adolygu nesaf) ac os na fydd gwelliant sylweddol yng nghyfraddau achosion erbyn hynny, tan hanner tymor (dydd Gwener 12 Chwefror).
Yna byddai adolygiad pellach yn cael ei gynnal i edrych ar ddychwelyd o bosibl ar ddydd Llun 22 Chwefror.
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddoe, bydd y Coleg yn parhau i gyflwyno ei holl ddarpariaeth ar-lein tan 18 Ionawr 2021.
Bydd yr amserlenni cyrsiau arferol yn gweithredu ar gyfer pob math o ddarpariaeth a bydd tiwtoriaid yn cysylltu â myfyrwyr drwy Google Classroom i gadarnhau trefniadau o ddydd i ddydd.
Bydd y timau Lles a Chefnogi Dysgwyr yn parhau i gefnogi myfyrwyr ar-lein a dylai unrhyw fyfyrwyr sy’n dymuno cael mynediad i gymorth gysylltu â’u tiwtor yn y lle cyntaf.
Lle na ellir aildrefnu asesiadau neu arholiadau, bydd y coleg yn cynnig y rhain fel y cynlluniwyd, ar y campws, yn ystod y cyfnod hwn.
Lle bo hynny’n bosibl, aildrefnir yr holl gyrsiau masnachol lle codir tâl a gyflwynir ar y campws fel rheol ar gyfer yn hwyrach yn y flwyddyn.
Gofynnir i staff weithio gartref oni bai ei bod yn hanfodol iddynt ddod i’r campws i gynnal swyddogaethau parhaus, e.e. cyflwyno ar-lein, asesu, arholi, clicio a chasglu’r llyfrgell, materion yn ymwneud ag ystadau, cynnal a chadw TG, darparu dyfeisiau dysgu, gwasanaethau ariannol neu weinyddol hanfodol sy’n gyfrwng i sicrhau parhad busnes.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr holl gaffis, salonau, bwytai, campfeydd, arenâu marchogaeth, stiwdios, gweithdai, ystafelloedd cyfarfod a meysydd chwaraeon yn aros ar gau.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu postio ar y wefan a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol wrth iddynt gael eu derbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus ac amynedd gyda’r sefyllfa heriol iawn hon.
Rhagfyr 11 2020
Mae colegau Addysg Bellach ledled Cymru wedi cytuno ar y cyd y bydd addysgu wyneb yn wyneb yn dechrau o 11 Ionawr 2021. Gweler y datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gan Golegau Cymru yma:
https://www.colegau.cymru/cy/blog/post/fe-colleges-to-move-to-online-learning-provision-for-an-extended-period
Mae hyn yn golygu y bydd yr addysgu yn parhau i gael ei gyflwyno ar-lein yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 4 Ionawr 2021. Bydd pob campws yn aros ar agor ar gyfer staff swyddogaethol a staff cynnal hanfodol sydd angen gweithio ar y safle neu staff addysgu sy’n dymuno cyflwyno o’u hystafell ddosbarth neu weithdy.
Bydd Cymru yn cychwyn ar gyfnod atal byr, llym o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd.
Bydd addysgu, dysgu a swyddogaethau cynnal busnes y Coleg yn gweithio o bell yn ystod y cyfnod hwn. Dim ond swyddogaethau hanfodol fydd yn parhau i weithredu ar y safle yn ystod y cyfnod hwn.
Disgwylir i arholiadau TGAU Saesneg sydd wedi’u hamserlennu ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau 2il Tachwedd fynd yn eu blaen ar:
- 2 Tachwedd bore (Saesneg)
- 4 Tachwedd bore (Saesneg)
ond mae’r union safleoedd lle byddant ar gael eto i’w cadarnhau (ond byddant yn cynnwys Caerfyrddin a Llanelli o leiaf). Cysylltir â myfyrwyr a staff yn unigol i gadarnhau.
Rhoddir ystyriaeth ar sail unigol i arholiadau allanol eraill a drefnwyd ar gyfer y pythefnos hwnnw a rhoddir gwybod i feysydd cwricwlwm a myfyrwyr yn unol â hynny dros y 48 awr nesaf.
Disgwylir y bydd cyflwyno ar y safle ar sail 50/50 yn ailgychwyn o ddydd Llun 9 Tachwedd.
Mike Williams
Is-Bennaeth, Strategaeth, Cynllunio a Gwasanaethau Academaidd
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Bore ‘ma cefais gadarnhad o brawf positif am COVID-19 sy’n gysylltiedig â’r Cwrs Rheolaeth Anifeiliaid Lefel Tri Blwyddyn Dau ar Gampws Pibwrlwyd.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi dweud wrthyf fod angen i’r dosbarth cyfan hwn hunanynysu fel rhagofal.
Bydd yr holl ddysgwyr ar y Cwrs Rheolaeth Anifeiliaid Lefel Tri Blwyddyn Dau ym Mhibwrlwyd, yn cael eu holl wersi ar-lein tan ar ôl hanner tymor.
Gall dysgwyr ddychwelyd i’r coleg ddydd Iau 5ed Tachwedd.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Bore ‘ma cefais gadarnhad o brawf positif am COVID-19 sy’n gysylltiedig â dysgwyr U2 (Safon Uwch Ail Flwyddyn) yng Ngrŵp D y Gyfraith.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi dweud wrthyf fod angen i’r dosbarth cyfan hwn hunanynysu fel rhagofal.
Bydd yr holl ddysgwyr yng Ngrŵp D, y Gyfraith U2, yn cael eu holl wersi ar-lein ar ddydd Llun 19eg Hydref a dydd Mawrth 20fed Hydref.
Gall dysgwyr ddychwelyd i’r coleg ddydd Mercher 21ain Hydref.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Ddysgwr,
Heddiw, derbyniodd y Coleg gadarnhad o brawf positif am COVID-19 wedi’i gadarnhau sy’n gysylltiedig ag aleod o’r Cwrs BA mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) rhanbarthol wedi dweud wrth y Coleg mai achos unigol yw hwn ar hyn o bryd, ac y byddant yn cysylltu â’r holl bobl hynny sy’n ofynnol maes o law (fel arfer o fewn 48 awr). Er mwyn bod yn ofalus, rydym wedi penderfynu symud holl addysgu’r dosbarthiadau BA mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol ar-lein.
O yfory (dydd Mercher 14eg Hydref 2020), bydd y Coleg yn trosglwyddo’r holl wersi ar gyfer BA Astudiaethau Gofal Cymdeithasol ar-lein tan ar ôl hanner tymor. Cysylltir â dysgwyr i drafod pryd y gall dysgu wyneb-yn-wyneb ailddechrau.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr,
Bore ‘ma, derbyniais gadarnhad o un prawf positif am COVID-19 wedi’i gadarnhau sy’n gysylltiedig â dysgwr sy’n astudio Ffasiwn ar Gampws Ffynnon Job yng Nghaerfyrddin.
Rydych wedi derbyn y llythyr hwn gan eich bod wedi rhannu ystafell ddosbarth / gweithdy gyda’r dysgwr dan sylw yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi dweud wrthyf y bydd nodi’r achos hwn yn arwain at eu system yn olrhain cysylltiadau agos y dysgwr yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Dylai hyn fod yn ystod y 48 awr nesaf, ond efallai’n hwy.
Fel rhagofal, mae’r Coleg yn symud gwersi ar gyfer y grŵp dan sylw ar-lein, am yr wythnos nesaf.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Ddoe, derbyniais gadarnhad o un prawf positif am COVID-19 wedi’i gadarnhau sy’n gysylltiedig â dysgwr sy’n astudio yng Ngharfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Blwyddyn 1 Grŵp C.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi dweud wrthyf fod nodi’r achos hwn yn arwain at y camau gweithredu canlynol.
Dylai pob myfyriwr yng ngharfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Blwyddyn 1 Grŵp C ymgymryd â chyfnod o hunan-ynysu am 14 diwrnod, o ddydd Mawrth 29ain Medi 2020.
Bydd gwersi ar gyfer y dysgwyr hyn yn parhau ar-lein am y bythefnos nesaf. Mae'r amserlenni ar gyfer dysgu ar-lein yr un peth â’r dysgu wyneb yn wyneb.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Ddoe, derbyniais gadarnhad o un prawf positif arall am COVID-19 wedi’i gadarnhau sy’n gysylltiedig â dysgwr sy’n astudio yn ein carfan Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 Blwyddyn 2. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o ddau brawf COVID-19 positif o fewn y garfan hon o fyfyrwyr.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi fy hysbysu fel a ganlyn: -
Dylai pob myfyriwr sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 Blwyddyn 2 ar Gampws y Graig yn Llanelli, barhau i hunan-ynysu am 14 diwrnod, o 27ain Medi 2020, h.y. nid oes angen estyn ar y cyfnod hunan-ynysu gwreiddiol.
Bydd gwersi ar gyfer dysgwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 Blwyddyn 2 yn parhau ar-lein hyd nes bod y cyfnod hunan-ynysu wedi gorffen. Mae'r amserlenni ar gyfer dysgu ar-lein yr un peth â’r dysgu wyneb yn wyneb.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Riant / Warcheidwad,
Ddoe, rhoddwyd gwybod i’r Coleg bod unigolyn sy’n astudio ar y cwrs Gwyddor Anifeiliaid Lefel 3 Blwyddyn 2 ar Gampws Pibwrlwyd wedi profi’n bositif am COVID-19. Hoffem eich sicrhau nad oes achos i bryderu’n syth a byddwn yn rhoi cymaint o wybodaeth gywir â phosibl i chi.
Rydym yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Caerfyrddin a gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru ac yn dilyn yr holl gyngor ac arweiniad o roddir i ni.
Gan na fu unrhyw gyswllt rhwng y dysgwr dan sylw a gweddill y grŵp ers peth amser, nid oes unrhyw gamau pellach i'w cymryd ar hyn o bryd.
Mae’r broses hon o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ a lle mae Colegau yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes rheswm dros ddychryn.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a/neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Neithiwr derbyniais gadarnhad o un prawf positif am COVID-19 wedi’i gadarnhau sy’n gysylltiedig â dysgwr sy’n astudio yn ein carfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Blwyddyn 1 Grŵp B.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi dweud wrthyf fod nodi’r achos hwn yn arwain at y camau gweithredu canlynol.
Dylai pob myfyriwr yng ngharfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Blwyddyn 1 Grŵp B ymgymryd â chyfnod o hunanynysu am 14 diwrnod, o ddydd Gwener 25ain Medi 2020.
Bydd gwersi ar gyfer y dysgwyr hyn yn parhau ar-lein am y bythefnos nesaf. Mae'r amserlenni ar gyfer dysgu ar-lein yr un peth â’r dysgu wyneb yn wyneb.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio y bydd y dysgwyr hyn yn dychwelyd i’r campws ar ddydd Llun 12fed Hydref 2020.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Y prynhawn yma rwyf wedi derbyn cadarnhad o ganlyniadau dau brawf positif wedi’u cadarnhau am COVID-19, sy’n gysylltiedig â dysgwyr sy’n astudio yn ein carfan Gyfrifiadura (Cambridge Technical) Lefel 3 Blwyddyn 1 ar Gampws y Graig yn Llanelli. Hoffem eich sicrhau nad oes achos i bryderu’n syth a byddwn yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi fy hysbysu fel a ganlyn: -
Gallwn gadarnhau nad oes unrhyw fyfyrwyr yn y garfan benodol hon wedi bod mewn cysylltiad agos â'r unigolion dan sylw gan fod y grŵp gyda’i gilydd ddiwethaf ar y campws ar 17eg Medi 2020.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Neithiwr derbyniais gadarnhad o un prawf positif am COVID-19 wedi’i gadarnhau sy’n gysylltiedig â dysgwr sy’n astudio yn ein carfan Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 Blwyddyn 2.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi fy hysbysu y dylai: -
Pob myfyriwr sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 Blwyddyn 2 ar Gampws y Graig yn Llanelli, ymgymryd â chyfnod o hunanynysu am 14 diwrnod, o 27ain Medi 2020.
O heddiw (dydd Llun 28ain Medi 2020), byddwn yn trosglwyddo’r holl wersi ar gyfer dysgwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 Blwyddyn 2 ar-lein am y pythefnos nesaf. Mae'r amserlenni ar gyfer dysgu ar-lein yr un peth â’r dysgu wyneb yn wyneb.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio y bydd y dysgwyr hyn yn dychwelyd i’r campws ar ddydd Llun 12fed Hydref 2020.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llanelli yn cychwyn ar gyfnod clo lleol o 18:00 nos Sadwrn - 26ain Medi 2020.
Dan reoliadau Llywodraeth Cymru, gall sefydliadau addysgol barhau i weithredu a gall myfyrwyr barhau i fynd i mewn neu adael ardal y clo ar gyfer anghenion addysgol.
Felly, bydd pob un o’n campysau yn aros ar agor yn ystod y cyfnod clo. Os bydd unrhyw amgylchiadau’n newid, byddwn wrth gwrs yn adolygu hyn ac yn cyhoeddi gwybodaeth bellach.
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Bore ‘ma cefais gadarnhad o brawf positif am COVID-19 sy’n gysylltiedig â Dysgwyr Diploma Lefel Dau mewn Gwaith Saer ar Gampws Rhydaman.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi dweud wrthyf fod angen i’r dosbarth cyfan hwn hunanynysu fel rhagofal.
Bydd yr holl ddysgwyr yn y grŵp Diploma Lefel Dau mewn Gwaith Saer ar Safle, yn cael eu holl wersi ar-lein tan ar ôl hanner tymor.
Gall dysgwyr ddychwelyd i’r coleg ddydd Dydd Mercher 4ydd Tachwedd.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Gyda nifer cynyddol o achosion Covid-19 ar draws De Cymru, rydym wedi penderfynu symud ein holl addysgu ar-lein am y cyfnod dydd Gwener 11eg Rhagfyr tan ddydd Gwener 18fed Rhagfyr.
Rydym wedi cymryd y cam hwn er mwyn gallu parhau i gyflwyno cyrsiau i’n dysgwyr yn wythnos olaf y tymor ac i geisio sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl i fyfyrwyr a staff dros gyfnod y Nadolig.
Felly, dydd Iau 10fed Rhagfyr fydd y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno ar y safle cyn y Nadolig ac ni fydd cludiant y coleg yn rhedeg ar ôl y dyddiad hwn.
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Neithiwr, cefais wybod bod unigolyn sydd wedi cofrestru ar ein rhaglen Celfyddydau Perfformio L3 Bl 1 ar Gampws y Graig yn Llanelli, wedi profi’n bositif am COVID - 19. Hoffem eich sicrhau nad oes achos i bryderu’n syth a byddwn yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi.
Gallwn gadarnhau nad oes unrhyw fyfyrwyr yn y garfan benodol hon wedi bod mewn cysylltiad agos â'r unigolyn dan sylw.
Rydym yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Caerfyrddin a gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru ac yn dilyn yr holl gyngor ac arweiniad o roddir i ni.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Bore ‘ma rwyf wedi derbyn cadarnhad o ddau brawf COVID-19 positif arall sydd wedi’u cadarnhau sy’n gysylltiedig â dysgwyr sy’n astudio o fewn ein carfan U2. Ar hyn o bryd, mae hyn yn dod â chyfanswm y profion positif i bump ers nos Iau ddiwethaf.
Mae’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi dweud wrthyf nad yw nodi’r ddau achos pellach hwn yn newid y neges a gawsoch yn flaenorol.
Y neges hon oedd:
Dylai pob myfyriwr sy’n astudio pynciau U2 ymgymryd â chyfnod o hunanynysu am 14 diwrnod, o 18fed Medi 2020.
O ddoe (dydd Llun 21ain Medi 2020), rydym wedi trosglwyddo’r holl wersi ar gyfer dysgwyr U2 ar-lein am y pythefnos nesaf. Mae'r amserlenni ar gyfer dysgu ar-lein yr un peth â’r dysgu wyneb yn wyneb.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio y bydd dysgwyr U2 yn dychwelyd i’r campws ar ddydd Llun 5ed Hydref 2020.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a / neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl Fyfyriwr / Rhiant / Gwarcheidwad,
Dros y penwythnos hwn, mae’r Coleg wedi dod yn ymwybodol o ddau brawf COVID-19 positif ychwanegol sydd wedi’u cadarnhau sy’n gysylltiedig â dysgwyr sy’n astudio o fewn ein carfan U2. Ar hyn o bryd, mae hyn yn dod â chyfanswm y profion positif i dri ers nos Iau ddiwethaf. Er bydd y cynnydd bach hwn mewn achosion yn bryder i chi, hoffem barhau i’ch sicrhau nad oes yna achos i bryderu’n syth a byddwn yn parhau i roi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi.
Mae’r Coleg yn gweithio’n galed i roi gwybodaeth gywir a chyflym i chi ond fel rwy'n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi, gydag achosion yn cynyddu ledled Cymru, mae hyn yn heriol ar hyn o bryd. Yn ychwanegol, gofynnwyd i ni ddilyn cyngor ac arweiniad a roddir gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (TTP). Y corff rhanbarthol hwn sy’n rhoi cyngor i sefydliadau addysgol ac sy’n cysylltu â’r holl bartïon angenrheidiol y mae angen eu holrhain. Dyma’r canllawiau y cawsom gyfarwyddyd i’w dilyn ac felly dyna pam nad ydym wedi cysylltu â dysgwyr unigol ynghylch achosion penodol.
Yn ein hachos arbennig ni, rydym yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Caerfyrddin a gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru ac yn dilyn yr holl gyngor ac arweiniad a roddir i ni.
Yng ngoleuni’r tri achos hysbys, mae’r Tîm TTP heno (nos Sul) wedi ein cynghori i ddweud wrthych chi y dylai pob myfyriwr sy’n astudio pynciau U2 nawr ymgymryd â chyfnod o hunanynysu am 14 diwrnod, o 18fed Medi 2020.
O yfory (dydd Llun 21ain Medi 2020), byddwn yn trosglwyddo’r holl wersi ar gyfer dysgwyr U2 ar-lein am y pythefnos nesaf. Mae'r amserlenni ar gyfer dysgu ar-lein yr un peth â’r dysgu wyneb yn wyneb.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio y bydd dysgwyr U2 yn dychwelyd i’r campws ar ddydd Llun 5ed Hydref 2020.
Mae’r broses hon o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ a lle mae Colegau yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes rheswm dros ddychryn.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a/neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Neges bwysig i holl rieni/gwarcheidwaid dysgwyr U2 (ail flwyddyn Safon Uwch)
Annwyl Riant / Warcheidwad,
Yn hwyr iawn neithiwr, rhoddwyd gwybod i’r Coleg bod unigolyn sy’n astudio ar yr ail flwyddyn o Safon Uwch (U2) yn ein Coleg wedi profi’n bositif am COVID-19. Hoffem eich sicrhau nad oes achos i bryderu’n syth a byddwn yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi.
Rydym yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Caerfyrddin a gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru ac yn dilyn yr holl gyngor ac arweiniad o roddir i ni.
Yn hwyr neithiwr, gwnaethom ofyn i’r holl ddysgwyr U2 drosglwyddo i ddysgu ar-lein heddiw fel rhagofal. Mae'r Tîm TTP yn cysylltu â myfyrwyr unigol ac aelodau staff i gadarnhau p’un a oes angen cyfnod o hunanynysu am 14 diwrnod.
Mae’r broses hon o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ a lle mae Colegau yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes rheswm dros ddychryn.
O ran yr wythnos nesaf (w/c 21ain Medi 2020), bydd dysgwyr U2 yn parhau i dderbyn gwersi ar-lein fel y cynlluniwyd.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i’ch atgoffa os ydych chi, eich mab neu eich merch neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw, yn dechrau dangos y symptomau canlynol, rhaid i chi i gyd aros gartref a dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Peswch parhaus newydd a/neu
- Tymheredd uchel
- Colli neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Os ydych chi, neu eich mab neu eich merch, yn teimlo’n sâl ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi, ffoniwch NHS 111 neu ewch i’w gwefan 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch eich meddyg teulu lleol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.
Gobeithiwn fod y wybodaeth rydym wedi’i darparu yn tawelu’r meddwl ac yn ddefnyddiol yn ystod cyfnod y gwerthfawrogwn sy’n gallu bod yn bryderus iawn. Fel bob amser, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth barhaus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dr Andrew Cornish
Pennaeth a Phrif Weithredwr
Annwyl bawb
Ddoe fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ar gyfer ysgolion a cholegau i ddychwelyd yn raddol i weithredu ar y safle. Mae’r datganiad llawn a wnaed gan y Gweinidog yma https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-52895374
Ar gyfer yr holl golegau yng Nghymru, mae hyn yn golygu agor campysau o Fehefin 15fed 2020. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu mai’r cynharaf y gallwn gyflawni hyn fydd o Fehefin 22ain 2020. Bwriad hyn yw sicrhau bod yr holl gamau posibl y mae’n rhaid i ni eu cymryd i sicrhau hyfforddiant staff priodol, arferion gwaith diogel a gweithrediadau yn gallu cael eu rhoi ar waith yn ofalus a llwyddiannus. Ein prif ystyriaeth yn y broses hon o hyd fydd diogelwch yr holl staff a dysgwyr.
Ar hyn o bryd mae’r Coleg yn cwblhau asesiadau risg ar gyfer holl elfennau’r gweithrediadau y bydd yn ymgymryd â nhw ym misoedd yr haf, cyn mis Medi. Rhennir y rhain gyda’r Bwrdd Cyfarwyddwyr, y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch, swyddogion Undeb a’r holl staff cyn dechrau ar unrhyw waith ar y safle. Rhoddir hyfforddiant i staff cyn iddynt dderbyn dysgwyr ar y campws. Yn sail i'r broses hon bydd y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.
Y meysydd gwaith fydd yn cael blaenoriaeth yn ystod misoedd yr haf yw’r meysydd hynny lle mae dysgwyr angen asesiadau i gyflawni eu “trwydded i ymarfer” ac i ddarparu cefnogaeth ar y campws i ddysgwyr agored i niwed. Bydd llawer o’n gwaith yn parhau ar-lein a bydd llawer o staff yn parhau i weithio o bell. Rhoddir gwybodaeth fanylach yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Byddwch yn garedig, cadwch yn ddiogel
Andrew
Heddiw mae Ofqual wedi lansio ymgynghoriad yn dilyn canslo ystod o arholiadau ac asesiadau mewn cymwysterau galwedigaethol a thechnegol oherwydd pandemig Covid-19. Darllen mwy >>
Helo bawb
Croeso yn ôl i dymor newydd ar ôl gwyliau'r Pasg. Gobeithio gwnaethoch i gyd lwyddo i gael ychydig o amser i ymlacio a chymryd hoe yn yr hyn sy'n parhau i fod yn amgylchiadau eithriadol.
Trwy gydol cyfnod y Pasg bu nifer o gyfarfodydd pwysig sydd wedi arwain at drafodaethau pellach ynghylch graddio cymwysterau dan arweiniad athrawon, diogelwch ffrydiau cyllido amrywiol a’r cwestiynau anochel ynghylch pryd y bydd bywyd yn ‘mynd yn ôl i normal’.
Fel Coleg rydym wedi gweithio'n galed i gefnogi'r GIG drwy'r argyfwng presennol trwy gytuno i gynnal hyfforddiant ar ein Campws yn Aberystwyth a darparu cyfarpar PPE y mae galw mawr amdano mewn ysbytai lleol i ychwanegu at eu lefelau cyfredol o gyfarpar. Mae hyn ond wedi bod yn bosibl oherwydd y nifer o wirfoddolwyr sydd wedi dod ymlaen i helpu - ar ran y Coleg, diolch. Hefyd, rydym ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru ynghylch darparu canolfan iddynt weithredu ym mis Mehefin, ar Gampws y Graig yn Llanelli.
Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi gweld y gwobrau CARIAD a gyflwynwyd yn ddiweddar. Mae'r gefnogaeth i ddysgwyr yn parhau ar-lein ac rwy'n ddiolchgar i'r staff hynny a ddarparodd gefnogaeth mawr ei hangen i ddysgwyr, yn enwedig y dysgwyr mwyaf agored i niwed, yn ystod cyfnod y Pasg.
Ar ôl y Pasg bydd cefnogaeth a dysgu ar-lein yn parhau, ond wrth i amser fynd yn ei flaen bydd rhai agweddau ar y swyddogaethau hyn yn newid. Er enghraifft, defnyddir asesu ffurfiannol a ffactorau eraill i ddarparu graddau terfynol i ddysgwyr ac, wrth i un flwyddyn academaidd ddod i ben, rhaid i ni baratoi ar gyfer y derbyniad nesaf o ddysgwyr. Bydd gwybodaeth fwy penodol am y darn pwysig hwn o waith yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.
Ar y cyfan, rydym yn addasu i weithio gartref yn dda ond rwyf hefyd yn gwerthfawrogi ei bod yn anodd rheoli ymrwymiadau teuluol a chyfrifoldebau gofalu yn yr amgylchedd gwaith hwn. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r her a ddaw yn sgil yr amseroedd anodd hyn, gobeithiaf y byddwch yn parhau i gefnogi'ch gilydd, i gadw mewn cysylltiad â chydweithwyr ac yn anad dim, cadw'ch hun yn ddiogel ac yn iach.
Byddwch yn ddiogel, byddwch yn garedig.
Andrew
Annwyl Pawb
Arholiadau Haf
Mewn perthynas â'r bwriad i ganslo arholiadau TGAU ac arholiadau Safon Uwch ar gyfer Haf 2020, nid oes gan y coleg unrhyw wybodaeth fanwl ar hyn o bryd ynghylch y mesurau a fydd yn cael eu defnyddio i ddyfarnu graddau.
Unwaith y byddwn yn gwybod mwy, byddwn yn cyfleu hyn i chi. Ar yr adeg hon, mae’n bwysig bod yr holl ddysgwyr yn parhau â’u hastudiaethau fel arfer, rhag ofn y bydd CBAC yn cyfeirio at bresenoldeb, cyflwyno gwaith dosbarth, cyn-bapurau a gwaith cartref i ffurfio eu barn ar y radd derfynol i'w dyfarnu i ymgeiswyr.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd yn ystod yr amser anodd hwn.
Rydym newydd gael gwybod y bydd yr Ysgolion yng Nghymru yn cau i ddisgyblion y dydd Gwener hwn.
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-51947148
Felly, bydd y Coleg hefyd yn cau i fyfyrwyr am 4.30 pm y dydd Gwener hwn.
Byddwn yn symud yn ffurfiol at gyflwyno ar-lein felly o ddydd Llun 23 Mawrth o 9.15 am.
Ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio cadw ein campysau ar agor ar gyfer staff sy’n dymuno mynychu (mae hyn yn amodol ar gael cadarnhad).
Gall staff eraill ddewis neu bydd yn ofynnol iddynt weithio gartref.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth neilltuol yn ystod yr amser heriol hwn.
Cofion
Mike Williams
Pennaeth Cynorthwyol, Strategaeth, Cynllunio a Gwasanaethau Academaidd
Newidiadau neu ychwanegiadau i gyngor a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth:
Cynghorir unrhyw un sydd â pheswch parhaus newydd neu dymheredd uchel i hunan-ynysu am 14 diwrnod. Dylai unrhyw un sydd ag aelodau o'r teulu sydd â symptomau o'r fath hunan-ynysu am 14 diwrnod.
Cynghorir staff sydd dros 70 oed, sy’n feichiog, neu sydd â chyflyrau iechyd difrifol hirdymor sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl, i weithio o gartref ar ôl trafod gyda’r rheolwr llinell.
Dylai unrhyw staff eraill sy’n gallu cyflawni eu swyddogaeth yn llawn o gartref, drafod yr opsiwn hwn gyda’u rheolwr llinell. Dylai staff osgoi pob teithio nad yw'n hanfodol, gan gynnwys rhwng campysau, a defnyddio dulliau digidol pan fo hynny'n briodol.
Dylid marcio myfyrwyr sy'n hunan-ynysu fel absenoldeb awdurdodedig ar y cofrestri.
Ni fydd y Ganolfan Fynediad, sydd wedi'i lleoli yn PCYDDS, yn derbyn cleientiaid wyneb yn wyneb, ond bydd yn parhau i dderbyn cleientiaid trwy ddulliau digidol.
Os bydd y Coleg yn gorfod cau, bydd yn sicrhau parhad gweithrediadau hanfodol gan gynnwys y gyflogres. Bydd staff parhaol yn cael eu talu yn unol â'u patrwm talu arferol. Ar gyfer staff achlysurol, gwneir pob ymdrech i gwblhau a chasglu contractau neu daflenni amser er mwyn sicrhau taliadau amserol.
Mae’r Coleg yn parhau ar agor i fyfyrwyr a staff ar draws ei 7 campws, nes ein bod yn cael ein cynghori fel arall gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Coleg yn parhau ar agor ar gyfer myfyrwyr AU sydd wedi’u cofrestru gyda PCYDDS. Gall myfyrwyr AU sy’n lletya mewn neuaddau preswyl yn PCYDDS barhau i breswylio yn y rhain.
Rhaid i fyfyrwyr adrodd am unrhyw absenoldeb o’r Coleg trwy eu swyddfa gampws leol.
Mae cynlluniau’n cael eu llunio ar gyfer darpariaeth ar-lein ar gyfer pob agwedd ar gwricwlwm y Coleg, os yw’n ofynnol i’r Coleg gau. Bydd y rhain yn cael eu lledaenu yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf.
Mae’r Coleg yn aros am gyngor pellach oddi wrth gyrff dyfarnu cenedlaethol ynghylch unrhyw fesurau wrth gefn a fydd yn cael eu cyflwyno er mwyn rheoli asesiadau ac arholiadau (gan gynnwys Safon Uwch a TGAU).
Bydd salonau gwallt a harddwch, bwytai, stiwdios dawns, canolfannau ffitrwydd, arena geffylau a chaeau chwarae 3G y coleg yn cau i aelodau’r cyhoedd yn syth.
Mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu llunio ar gyfer y stablau ym Mhibwrlwyd. Bydd perchenogion yn cael gwybod efallai y bydd hi’n angenrheidiol i geffylau ddychwelyd i’w cartrefi os bydd y Coleg yn cau.
Cynghorir unrhyw un sydd â pheswch parhaus newydd neu dymheredd uchel i hunan-ynysu am 7 diwrnod. Rhaid i unrhyw staff sy'n hunan-ynysu hysbysu eu rheolwr llinell a’r swyddfa gampws.
Bydd gan staff sy’n absennol oherwydd hunan-ynysu hawl i dâl llawn. Ni fydd absenoldeb yn cael ei gofnodi ar y system rheoli absenoldeb ond dylai staff roi gwybod i swyddfa’r campws yn y ffordd arferol.
Ni fydd teithiau tramor a gynlluniwyd i fyfyrwyr yn mynd yn eu blaenau yn ystod gweddill y flwyddyn academaidd hon.
Mae’n bosibl y gall ymweliadau hanfodol oddi ar y campws o fewn y DU barhau, ond dim ond lle bo hynny’n gwbl angenrheidiol ar gyfer y cwricwlwm.
Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr a staff i ddilyn y wybodaeth hylendid a gyhoeddwyd yn eang yn ofalus iawn, sy'n argymell golchi dwylo'n drylwyr ac yn rheolaidd gyda sebon a dŵr am 20 eiliad.
Yn wyneb datganiad Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar 12 Mawrth 2020, cyngor y Coleg i staff a myfyrwyr yw fel a ganlyn:
Mae'r Coleg yn parhau i fod ar agor ar gyfer busnes fel arfer ar draws ei 7 campws.
Cynghorir unrhyw un sydd â pheswch parhaus newydd neu dymheredd uchel i hunan-ynysu am 7 diwrnod, wrth i Lywodraeth y DU symud i gam "oedi" ei chynllun i fynd i'r afael â choronafeirws.
Rhaid i unrhyw staff sy'n hunan-ynysu hysbysu eu rheolwr llinell a rhaid i fyfyrwyr rhoi gwybod am eu habsenoldeb trwy eu swyddfa gampws.
Ni fydd teithiau wedi'u cynllunio dramor i fyfyrwyr yn mynd yn eu blaenau yn ystod gweddill y flwyddyn academaidd hon.
Gall teithiau o fewn y DU barhau, ond fe'u hystyrir fesul achos. Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr a staff i ddilyn y wybodaeth hylendid a gyhoeddwyd yn eang yn ofalus iawn, sy'n cynnwys golchi dwylo'n drylwyr ac yn rheolaidd gyda sebon a dŵr am 20 eiliad.
Ar hyn o bryd, mae’r Coleg yn parhau i weithredu fel arfer ar gyfer yr holl fyfyrwyr a staff.
Mae’r sefyllfa’n esblygu’n ddyddiol ac mae’r Coleg yn monitro hyn yn agos. Mae’n cael ei arwain gan wybodaeth a gyhoeddir gan y llywodraeth ganolog a’r arweiniad ar gyfer lleoliadau addysgol a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fodd bynnag, os oes unrhyw staff neu fyfyrwyr yn pryderu am eu hiechyd neu wedi dychwelyd yn ddiweddar o fannau a effeithir cysylltwch â NHS 111 i gael cyngor personol.
Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr a staff yn gryf i ddilyn y wybodaeth hylendid a gyhoeddwyd yn eang, sy'n cynnwys golchi dwylo'n drylwyr ac yn rheolaidd gyda sebon a dŵr am 20 eiliad.
Os, yn y dyfodol, bydd yna unrhyw amheuaeth o achosion o Coronafeirws yn y Coleg, bydd y tîm rheoli yn gweithio gyda’r Tîm Diogelu Iechyd lleol ac yn ceisio cyngor ynghylch y ffordd orau i ymateb.
Bydd unrhyw deithiau neu ddigwyddiadau staff a myfyrwyr a gynlluniwyd ar gyfer gweddill eleni, yn cael eu hystyried fesul achos ac yng ngoleuni'r cyngor mwyaf diweddar a gyhoeddwyd.
Diweddariad ar y camau y mae'r Coleg yn eu cymryd mewn perthynas â'r firws COVID19.
1. Glanhau
Mae Solo, Glanhawyr Contract y Coleg ar gyfer campysau Coleg Sir Gâr, eisoes wedi rhoi cychwyn ar drefn lanhau ddwysach yn unol ag argymhellion y Diwydiant Glanhau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio chwistrellau Antibac ar "fannau problemus", sef handlenni drysau a phlatiau gwthio (yn enwedig ffitiadau metel). Mae ardaloedd y toiledau yn parhau i gael eu glanhau yn unol â'r fanyleb arferol - nid oes angen glanhau ychwanegol ar gyfer ardaloedd o'r fath. Ar hyn o bryd nid oes gofyniad am unrhyw lanhau dwfn; fodd bynnag, adolygir hyn os bydd achos wedi'i gadarnhau o COVID 19 yn y Coleg.
Ar gampysau Coleg Ceredigion, mae handlenni drysau a phlatiau gwthio yn cael eu glanhau gyda chynnyrch gwrthfacteria.
Nid yw Solo yn gyfrifol am lanhau desgiau a chyfarpar TG. Yn ddelfrydol dylid sychu’r rhain yn rheolaidd â chadachau gwrthfacteria. Dylai fod trefn lanhau debyg ar gyfer cyfarpar y Gampfa / Ffitrwydd hefyd. Nid oes cadachau mewn stoc ar hyn o bryd - dyma’r sefyllfa gyda’r holl gyflenwyr ledled y wlad gyfan.
2. Hylifau Glanhau Dwylo
Mae’r Coleg wedi llwyddo gosod archeb ar gyfer peiriannau rhoi ewyn gel glanhau dwylo. Y bwriad yw rhoi’r unedau hyn wrth ddrysau prif fynedfeydd a Ffreuturiau. Gobeithio bydd y rhain gyda ni heb ryw lawer o oedi.
3. Posteri
Mae Posteri Gwybodaeth Dwyieithog yn y broses o gael eu cynhyrchu a byddant yn cael eu rhoi i bob campws.
4. Sgriniau Plasma
Bydd clip fideo Iechyd Cyhoeddus ar ymwybyddiaeth o COVID 19 a hylendid personol yn cael ei chwarae ar sgriniau plasma derbynfeydd y coleg.
Yn unol â gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, y camau mwyaf effeithiol y gellir eu cymryd yw i bawb sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo’n drylwyr mewn dŵr twym a sebon yn aml drwy gydol y dydd a hefyd i fod yn gyfrifol am safonau hylendid personol uchel yn enwedig wrth besychu / tisian.
Ar hyn o bryd, mae’r Coleg yn gweithredu fel arfer ar gyfer myfyrwyr a staff.
Mae’r Coleg yn parhau i ddilyn cynnydd yr achosion o goronafeirws (Covid-19) a’r ymateb iddynt ar draws y byd. Mae'n cael ei arwain gan wybodaeth a gyhoeddir gan:
Mae’r sefyllfa’n esblygu’n ddyddiol ac mae’r Coleg yn cadw golwg agos ar ei gynnydd. Fodd bynnag, os oes unrhyw staff neu fyfyrwyr wedi dychwelyd yn ddiweddar o fannau a effeithir sicrhewch eich bod chi’n hunan-ynysu am y 14 diwrnod a argymhellir a chysylltu â NHS 111 os ydych yn teimlo’n anhwylus.
Hefyd, mae’r Coleg yn adolygu’r cyngor cynhwysfawr ar gyfer Lleoliadau Addysgol a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr ac os amheuir unrhyw achosion o Coronafeirws o fewn cymuned y Coleg, bydd y Coleg yn gweithredu’n unol â hynny.
Bydd unrhyw deithiau neu ddigwyddiadau staff a myfyrwyr a gynlluniwyd ar gyfer gweddill eleni, yn cael eu hystyried fesul achos ac yng ngoleuni'r cyngor mwyaf diweddar a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ganolog.
Annwyl Bawb
Mewn ymateb i’r achos diweddar o Covid-19 (Coronafeirws), hoffem sicrhau ein dysgwyr fod y Coleg yn monitro'r sefyllfa yn agos iawn. Fel Uwch Dîm Arweinyddiaeth, rydym yn cyfarfod yn ddyddiol er mwyn sicrhau bod y prosesau a'r gweithdrefnau cywir yn eu lle i sicrhau bod y cyngor gorau posibl yn cael ei roi i’n dysgwyr, yn unol ag argymhellion cyfredol Llywodraeth Cymru.
Diogelwch ein dysgwyr, ein gweithwyr, a’n hymwelwyr yw ein blaenoriaeth. Yn ychwanegol, byddwn yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod addysgu, dysgu a pharatoi at asesiadau yn gallu parhau yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, gan ddilyn arweiniad gan lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau Iechyd Cyhoeddus.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw un o gampysau’r Coleg. Fodd bynnag, mae'n ymddangos yn bosibl, er nad yw’n bendant, y gallai fod angen cau o ryw fath rhan, neu'r cyfan, o'r Coleg, ac mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cynllunio ar gyfer y senario hwn. Petai hyn yn digwydd, byddwn yn cyfathrebu â chi drwy e-bost, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Coleg, www.colegsirgar.ac.uk neu www.ceredigion.ac.uk, cyn gynted ag y bydd penderfyniad wedi’i wneud. Hoffem eich atgoffa chi i wirio'r llwyfannau electronig hyn a'ch cyfrif e-bost Coleg yn rheolaidd fel y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.
Ar hyn o bryd, os ydych yn iach, dylech fynychu'r holl wersi ar yr amserlen, a lleoliadau, oni bai bod tiwtor eich cwrs neu eich tiwtor personol yn rhoi gwybod fel arall i chi.
Os ydych chi ar leoliad, ac mae darparwr eich lleoliad yn cau, cysylltwch â thiwtor eich cwrs cyn gynted â phosibl fel y gellir rhoi mesurau ar waith i gefnogi eich astudiaethau.
Er mwyn sicrhau nad yw dysgwyr, staff ac ymwelwyr yn agored i risgiau diangen pellach, rydym wedi atal pob taith Golegol ryngwladol a gynlluniwyd a lleoliadau gwaith rhyngwladol o'r Coleg. Rydym hefyd wedi penderfynu atal myfyrwyr Ewropeaidd newydd sy'n mynychu’r Coleg ar leoliadau.
Bydd gweithgareddau o fewn y DU yn parhau i gael eu trafod fesul achos a byddant yn amodol ar wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, byddem yn annog yn gryf eich bod yn parhau i gynllunio a pharatoi ar gyfer eich arholiadau a'ch asesiadau sy’n agosáu.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bo modd os bydd gofynion neu drefniadau Byrddau Arholi a / neu Gyrff Dyfarnu yn newid.
Dysgwyr sy'n teimlo'n anhwylus a / neu sydd â chyflyrau iechyd hirdymor
Dylai dysgwyr sydd â systemau imiwnedd isel neu gyflyrau cronig hirdymor fel asthma, diabetes neu glefyd y galon ac sy'n poeni am y coronafeirws barhau i gymryd eu rhagofalon arferol ac efallai yr hoffent gysylltu â'u meddyg teulu.
Os oes gennych bryderon y gallai fod gennych y coronafeirws, dylech ddilyn y canllawiau a ddarperir gan:
Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://phw.nhs.wales/
Iechyd Cyhoeddus Lloegr: https://www.gov.uk/government/organisations/public-health-england
Rydym yn deall yr effaith y mae'r sefyllfa hon yn ei chael, ac rydym yn meddwl am bawb ar yr adeg heriol hon.
Dilynwch gyngor y Llywodraeth: -
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd gyda sebon am 20 eiliad;
- Dylech besychu neu disian i mewn i hances bapur neu i blyg eich braich;
- Cadwch eich pellter oddi wrth eraill yn gymdeithasol a dim ond mynd ar deithiau sy'n hollol angenrheidiol;
Cadwch yn ddiogel a gofalwch am eich gilydd.
Andrew
Dr Andrew Cornish
Pennaeth / Prif Weithredwr