Dengys gwaith ymchwil newydd gan gynllun Dug Caeredin fod math newydd o arweinyddiaeth – un sy’n gwerthfawrogi cynwysoldeb ac empathi yn fwy nag awdurdod ac uchafiaeth, yn tyfu ymysg pobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig.
Pan ofynnwyd iddynt pa arweinwyr maen nhw’n eu hedmygu fwyaf, dewisodd bobl ifanc Barack Obama, Bill Gates a Gareth Southgate - pob un yn adnabyddus am eu harddulliau arwain diymhongar, amyneddgar a grymusol.
Mewn ymateb i’r casgliadau, rydym yn galw ar bobl ifanc i gydnabod bod y sgiliau a geir trwy’r rhaglen DofE, megis tosturi, hyder a gwytnwch yn hanfodol i’w llwyddiant yn y dyfodol.
Mae Sarah Willingham, sy’n entrepreneur ac yn gyn-fuddsoddwraig ar y rhaglen Dragon’s Den, yn hapus i weld bod y dull hwn o arweinyddiaeth yn cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu gan bob ifanc heddiw: “Ers yn rhy hir, mae arweinyddiaeth dda wedi cael ei chysylltu ag uchafiaeth ac awdurdod felly mae’n wych i weld yr agweddau ymysg pobl ifanc. Trwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweld llawer o enghreifftiau o’r nodweddion hyn yn mynd â phobl rhyw hyd a dim pellach yn unig, cyn iddynt gael eu dal allan, ac yn y pen draw, empathi a gwytnwch sy’n tueddu ennill y dydd.
“Mae rhaglenni fel gwobrau Dug Caeredin, sy’n adeiladu’r sgiliau cywir ac yn herio pobl ifanc i archwilio eu potensial, yn hanfodol o ran meithrin ein cenhedlaeth nesaf o arweinwyr mawr.”