Gall dysgwyr gael mynediad i diwtorialau yn Gymraeg, cwblhau asesiadau neu aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae llawer o unedau y gellir eu hastudio yn Gymraeg neu'n ddwyieithog. Bydd astudio eich cwrs galwedigaethol yn ddwyieithog yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer y gweithle a bydd yn rhoi ystod ehangach o opsiynau i chi pan fyddwch yn gadael y Coleg.
Oeddech chi'n gwybod bod y rheiny sy'n gallu gweithio'n ddwyieithog, ar gyfartaledd, yn ennill cyflog uwch? Mae arolygon cyflogwyr yn dangos bod prinder gweithwyr gyda Sgiliau Iaith Gymraeg, a pha swydd bynnag yr ewch amdani yng Nghymru, gallwch fod yn siŵr y bydd gallu siarad Cymraeg yn eich rhoi gam ar y blaen mewn cyfweliad. Gall gweithiwr sy’n siarad Cymraeg fod yn werthfawr iawn i fusnes a gall helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w gwsmeriaid.
Mae manteision eraill yn cynnwys:
Darllen – mae pobl ddwyieithog yn rhoi mwy o bwyslais ar ystyr geiriau yn hytrach na'u sain. Gall hyn helpu gyda'u darllen. Mae ymchwil yn dangos y gall deall dwy iaith i lefel uchel fod o fudd i'r ymennydd.
Meddwl yn greadigol – mae gan berson dwyieithog o leiaf ddau air ar gyfer popeth a dau gysyniad gwahanol. Mae hyn yn golygu y gall person dwyieithog feddwl am bethau'n fwy hyblyg.
Sensitifrwydd – mae angen i bobl ddwyieithog wybod pa iaith i siarad â phwy a phryd. O ganlyniad, gallant ddatblygu mwy o sensitifrwydd i anghenion gwrandawyr na phobl sy'n siarad un iaith yn unig.
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i ddatblygu eu darpariaeth a’u hethos dwyieithog. Rydym yn hyrwyddo dwyieithrwydd ac yn annog ein holl fyfyrwyr i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg.
Mae’r Gymraeg yn unigryw i Gymru ac yn bwysig iawn i ni fel coleg. Gall pawb sy’n byw yng Nghymru fod yn falch o’r iaith, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei siarad hi eu hunain. Mae’r iaith yn perthyn i bawb sy’n byw yma ac mae buddion addysgol, cyflogadwyedd a chymdeithasol o fod yn gallu siarad dwy iaith. Gallwch fod yn rhan o ddau ddiwylliant a mwynhau’r amrywiaeth o idiomau, dywediadau, hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a thraddodiadau. Mae siarad Cymraeg, hyd yn oed ar lefel sylfaenol iawn, yn wych ar gyfer eich CV a gallai agor drysau i bob math o gyfleoedd i chi yn y dyfodol.
Bellach mae llawer o swyddi yng Nghymru yn gofyn am y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd, felly gallai astudio’n ddwyieithog roi mantais i chi pan fyddwch chi’n chwilio am waith.
Mae eich sgiliau dwyieithog yn werthfawr iawn a dylech fanteisio ar y cymorth y gallwn ei roi i chi yn y coleg i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach. Gallwn eich helpu i wella eich cyfleoedd gyrfa drwy ganiatáu i chi:
Mae llawer o gyfleoedd i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg ar draws y Coleg, er enghraifft:
At Coleg Sir Gar and Coleg Ceredigion staff and students work together to create an inclusive and enjoyable college community in which our students and staff are able to achieve their full potential.
The college is made up of a diverse and vibrant community of staff and students, where individuals work together, socialise, learn and develop in a safe, mutually supportive and inspiring environment. We promote an atmosphere of mutual respect developing a creative and supportive learning environment in which students can thrive.
We ask that everyone acts in a respectful manner, and demonstrates a positive attitude towards learning and work while attending college. All members of staff act as role models to students and support positive behaviour by setting high standards and expectations.
Staff recognise and reward positive behaviours with praise, supporting the development of students’ self-esteem and self-discipline. We also expect all staff to challenge negative behaviours, in order to maintain a positive and pleasant college environment for us all.
Please see our Positive Behaviour Policy and Learner code of Conduct