Skip to main content
Campus slider
Campus slider
previous arrow
next arrow

Dysgu ar-lein

Darpariaeth Cwrs

Mae Coleg Sir Gâr yn cynnig dros 2000 o gyrsiau trwy ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol, y gellir cael mynediad i lawer ohonynt yn fyd-eang. Caiff ein cyrsiau ar-lein eu hardystio a’u hachredu gan ystod eang o gyrff dyfarnu gan gynnwys; Highfield, Axelos, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Agored Cymru, City and Guilds, a llawer mwy. Mae pob un o’n cyrsiau ar-lein yn cynnwys cymorth gan unigolyn go iawn ar ben draw e-bost neu alwad fideo.

Amdanon ni

Agorodd Coleg Rhithwir Coleg Sir Gâr ei ddrysau rhithwir am y tro cyntaf yn 1998, gan gynnig nifer fach o gyrsiau TG. Ers datblygiad technoleg, sydd wedi newid meddylfryd pobl tuag at ddysgu ar-lein a'r gallu i gynnig ein cyrsiau yn fyd-eang, rydym wedi datblygu ein darpariaeth i gynnig ystod gyffrous o gyrsiau achrededig. Yn fwy diweddar, mae cyrsiau dysgu ar-lein a dysgu cyfunol wedi dod yn norm yn y rhan fwyaf o gyfadrannau, yn hytrach nag eistedd o fewn eu cyfadran eu hunain.

Rydym yn cynnig Hyfforddiant Cwmni ac Unigolyn

Rydym yn darparu ar gyfer y cwmni neu'r sefydliad yn ogystal â'r unigolyn, gan weithio'n agos gyda'n myfyrwyr, cyflogwyr a'n hymgynghorwyr gyrfa i gefnogi anghenion Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Yn ogystal â chael detholiad o dros 2000 o gyrsiau yn barod ar gyfer cofrestru, rydym hefyd yn ysgrifennu, llunio a datblygu cyrsiau e-ddysgu dwyieithog pwrpasol i fodloni anghenion penodol ein partneriaid a’n cyflogwyr lleol. Beth am ofyn i ni am ddyfynbris heddiw.

Cysylltu

Am ragor o fanylion, neu i ofyn am daflen gyrsiau, cysylltwch â ni

01554 748179
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.