Mae’r coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau a achredir gan brifysgol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a llawn amser. Mae cyrsiau’n amrywio o doreth o gyrsiau gradd mewn celf a dylunio a gynigir mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant i ystod o ddarpariaeth ran-amser mewn meysydd megis rheolaeth busnes a pheirianneg.
Astudio yn Sir Gaerfyrddin
Lleolir Sir Gaerfyrddin ar draws arfordir de-orllewin Cymru. Mae ganddi arfordiroedd a thraethau hardd yn ogystal ag atyniadau hanesyddol fel cestyll sy'n dyddio'n ôl i'r 13eg ganrif. Mae’r sir hefyd yn gartref i dŷ cwch Dylan Thomas, y bardd o Gymru, yn Nhalacharn, a nifer o drefi glan môr hynod. Yn ogystal â chefn gwlad, mae nifer fawr o drefi wedi'u gwasgaru ar draws Sir Gaerfyrddin sy'n cynnig siopau stryd fawr, caffis modern, bwytai, tafarndai a chlybiau, ar gyfer pan fydd angen seibiant o'ch astudiaethau arnoch.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.