Bydd cynnwys y cwrs hwn yn newid ym Mis Medi. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Amelia.Kilvington@colegsirgar.ac.uk.
Cwrs hyblyg rhan-amser dros ddwy flynedd sy'n ateb canllawiau'r Adran Addysg ar gyfer athrawon a hyfforddwyr sydd mewn swyddi llawn amser neu'n chwilio am waith llawn amser yn y sector addysg oedolion gan gynnwys addysg uwch ac ôl-orfodol.

Blwyddyn Un: Cysyniadau a Phrosesau Addysgu; Cymhwyso Sgiliau Addysgu; Rheoli Dysgu ac Asesu; Arfer Proffesiynol
Blwyddyn Dau: Cynllunio Cwricwlwm yn y Sector PCET; Addysgu a Dysgu Arloesol; Arfer Proffesiynol; Dau Fodiwl Opsiynol.
Profiad ymarferol yn y dosbarth, aseiniadau a dyddiadur adfyfyriol o ddatblygiad proffesiynol.
Dylai pob ymgeisydd fod â chymhwyster academaidd neu grefft uwch neu gymhwyster proffesiynol cyfwerth. Mae lefel dda o gyfathrebu, sgiliau rhifiadol a thechnoleg gwybodaeth yn hanfodol. Rhaid meddu ar radd cyn cael mynediad i'r cwrs. Mae hi hefyd yn hanfodol bod myfyrwyr yn gallu cael 200 awr o ymarfer addysgu dros y ddwy flynedd. Efallai y bydd cyfleoedd i'r myfyrwyr wneud hyn o fewn Coleg Sir Gâr, ond bydd hyn yn dibynnu ar natur arbenigedd proffesiynol y myfyriwr ac ni all Coleg Sir Gâr warantu lle. Ni chaiff y TAR ei ddyfarnu'n ôl-weithredol.