Skip to main content

BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol / Electronig

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r pwyslais trwy gydol y cwrs ar ddysgu sy'n fyfyriwr ganolog, tasg gyfeiriedig, gyda digon o gyfle ar gyfer gwaith aseiniad ymarferol. Lle bynnag y bo hynny'n bosibl, bydd y prif brosiectau unigol, a wneir yn yr ail flwyddyn, yn cael eu seilio ar ddiwydiant gyda goruchwylwyr diwydiannol yn cymryd rhan lawn ynddynt. 

Mae hwn yn gwrs rhan-amser, dwy/tair blynedd, sefydledig, (yn dilyn HND neu HNC) sy'n darparu sylfaen gadarn ym mhob agwedd ar beirianneg drydanol ac electronig ac mae'n cyfuno'r meysydd pwnc caledwedd a meddalwedd y mae'r diwydiant yn galw amdanynt. Caiff graddedigion eu paratoi ar gyfer ymarfer fel peirianwyr corfforedig a bydd y dyfarniad yn darparu sail gadarn i'r dysgwyr ar gyfer parhau mewn addysg. Achredir y dyfarniad hwn gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). 

Cipolwg

  Rhan Amser

  2 neu 3 blynedd

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen

Datblygu'r gallu i werthuso dyluniadau, prosesau a chynhyrchion a gwneud gwelliannau.

Sefydlu perthnasedd peirianneg i ddatrys problemau'r byd go iawn drwy ddefnyddio gwybodaeth wyddonol.

Cynnwys iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd drwy gydol y cwrs.

Datblygu gallu'r dysgwr i weld y gydberthynas rhwng theori ac ymarfer ac i gynnal ymagwedd ddamcaniaethol gadarn wrth ganiatáu i dechnoleg newydd a datblygol gael ei chyflwyno i wella arferion cyfredol.

Datblygu gallu'r dysgwr i gyfathrebu'n effeithiol â chleientiaid, cwsmeriaid a chydweithwyr, gan ddefnyddio dulliau ysgrifenedig, llafar a graffigol.

Datblygu agwedd hunan-ddisgybledig a hunan-gymelliannol wrth ddilyn ei astudiaethau.

Datblygu gallu'r dysgwr i fedru dewis defnyddiau, cydrannau a thechnegau cydosod addas ar gyfer cynnyrch penodol.

Datblygu gallu'r dysgwr i gynllunio a gweithredu prosiect o fewn cyfyngiadau amser a chost, gan roi ystyriaeth i'r materion iechyd a diogelwch.

Datblygu'r gallu i werthuso dyluniadau, prosesau a chynhyrchion a gwneud gwelliannau.

Datblygu agwedd broffesiynol y dysgwr tuag at faterion megis dyluniad, dibynadwyedd a chynnal cyfarpar, ansawdd a gwerth cynhyrchion, marchnata a diogelwch.

Cynnwys y Rhaglen

Modiwlau Blwyddyn 1: Peirianneg Rheoli, Pŵer a Pheiriannau, Signalau a Chyfathrebu Digidol, Offeryniaeth Rithwir a Systemau Rheoli, Systemau Rhwydweithio ar gyfer Peirianwyr.

Modiwlau Blwyddyn 2: Dylunio Electronig, Electroneg Pŵer a Gyriannau, Cynhyrchu a Phrofi Electronig

Modiwlau Blwyddyn 3: Rheolaeth Peirianneg a Phrosiect Mawr.

Caniateir i fyfyrwyr HND sydd wedi cwblhau modiwlau blwyddyn 1 gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn 2.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn medru perfformio dyletswyddau technegol mewn swyddi sy'n gofyn am ddealltwriaeth fanwl o Beirianneg Drydanol ac Electronig. Dylent fod yn medru dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, cynnal a rheoli cymwysiadau o dechnoleg gyfredol a datblygol ar lefel uchel. Byddant yn barod i ymarfer fel peirianwyr corfforedig a bydd ganddynt hefyd y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer addysg barhaus.

Asesu'r Rhaglen

Arholiad a hyd at bedwar darn o waith cwrs ar gyfer modiwlau nad ydynt yn cael eu hasesu trwy brosiectau. Cyflwyniad ar lafar ac adroddiad prosiect ar gyfer modiwl y prosiect.

Gofynion y Rhaglen

HNC Peirianneg Drydanol/Electronig

Costau Ychwanegol

Mae ffioedd addysg uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg.

Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell). 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.