Bwriedir y dyfarniad hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio’n rhan-amser ar gyfer gradd anrhydedd. Mae’r cwrs yn rhedeg dros gyfnod o dair blynedd (yn dilyn HNC). Mae gofyn bod myfyrwyr yn mynychu am un diwrnod yr wythnos ar hyd y flwyddyn academaidd. Mae’r cwrs yn arbennig o addas ar gyfer myfyrwyr hŷn sy’n dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod i ffwrdd neu’r myfyrwyr hynny sydd wedi ennill dyfarniad HNC yn ddiweddar ac sy’n bwriadu symud ymlaen ymhellach.
Achredir y radd gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).
Cipolwg
Rhan Amser
3 Blynedd
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Bydd y cwrs yn sefydlu perthnasedd peirianneg i broblemau'r byd go iawn.
Mae cynnwys y cwrs yn cyfateb i anghenion diwydiant modern a'r gymdeithas yn gyffredinol.
Cynnwys iechyd a diogelwch, materion amgylcheddol a chynaladwyedd drwy gydol y radd.
Gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o faterion megis dibynadwyaeth a chynnal dyluniadau, ansawdd a gwerth cynnyrch, marchnata, a diogelwch.
Meithrin hyfedredd technegol o lefel uchel yn un o brif feysydd peirianneg, gan gynnwys y gallu i wynebu amrywiaeth o broblemau ymarferol, hyd yn oed rhai arbenigol.
Datblygu dealltwriaeth o berthynas gyda chleientiaid, cwsmeriaid a chydweithwyr, gan gynnwys goruchwylio staff, a'r gallu i weithio fel rhan o dîm peirianneg.
Bydd y cwrs hwn yn werthfawr iawn i beirianwyr y mae angen iddynt gael cymwysterau ffurfiol sy'n gymesur â'u safle presennol neu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa. Ceir cyfle am statws Peiriannydd Corfforedig neu fynediad i gymwysterau uwch sy'n arwain at statws Peiriannydd Siartredig.
Asesu'r Rhaglen
Bydd yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys cyfuniad o aseiniadau ac arholiadau.
Gofynion y Rhaglen
HNC mewn Peirianneg Fecanyddol neu HNC mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ymgeiswyr hyn sy'n meddu ar gymhwyster cyfwerth â HNC a phrofiad diwydiannol perthnasol.
Costau Ychwanegol
Mae ffioedd Addysg Uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.