Mae'r rhaglen peirianneg drydanol ac electronig hon yn gwrs llawn amser blwyddyn o hyd yn y coleg sy'n ymgorffori lleoliad gwaith o fewn y diwydiant.
Mae'r Diploma Atodol BTEC lefel 3 60 credyd mewn peirianneg yn ffurfio blwyddyn gyntaf y Diploma Estynedig 180 credyd llawn (ar gyfer dilyniant llawn amser) neu'r Diploma 120 credyd (ar gyfer dilyniant rhan-amser, i brentisiaid). Caiff sgiliau ymarferol eu datblygu trwy ddefnyddio Diploma NVQ llawn EAL lefel 2 64 credyd mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg. Mae'r rhaglen ddysgu uwch hon yn cynnwys yr unedau sgiliau hanfodol, lle bo hynny'n berthnasol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn barod am waith ac i symud ymlaen i’r Brentisiaeth Fodern, neu astudio pellach ar lefel tri ar Ddiploma Estynedig Technegol llawn amser
Datblygu Sgiliau Ymarferol
Lleoliad gwaith gyda chyflogwr
Ymweliadau ymwybyddiaeth ddiwydiannol
Cynnwys y Rhaglen
Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol/Electronig
NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol lle bo hynny'n berthnasol
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu sgiliau i chi allu symud ymlaen i brentisiaeth statws cyflogedig, neu Ddiploma Estynedig L3 llawn amser.
Asesu'r Rhaglen
Asesir pob uned trwy arholiadau, profion, aseiniadau a gweithgareddau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Pump TGAU graddau A* - C i gynnwys mathemateg (neu radd B ar lefel Ganolradd) a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf.
Cyfweliad llwyddiannus yn dangos cymhelliant ac ymrwymiad i’r rhaglen yn cynnwys prawf tueddfryd ac asesiad cychwynnol.
Costau Ychwanegol
Mae’r holl gyrsiau peirianneg llawn amser sy’n cynnwys mecanyddol, trydanol/electronig/ffabrigo a weldio a cherbydau modur, yn cael eu hariannu’n llawn.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu cyn cofrestru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.